Ymgynghoriad ynghylch Neuadd Gymunedol Arfaethedig, Tŷ Sign, Rhisga

Teitl

Ymgynghoriad ynghylch Neuadd Gymunedol Arfaethedig, Tŷ Sign, Rhisga

Dyddiad agor

09/08/2021

Dyddiad cau

19/09/2021

Trosolwg

Mae Agape Community Church Tŷ Sign (‘yr Eglwys Gymunedol’) wedi gwneud cais i'r Cyngor am gefnogi datblygu neuadd gymunedol bwrpasol, newydd yn Heol y Celyn, Tŷ Sign, Rhisga, ac mae'n ceisio caffael prydles tymor hir ar ddarn o dir er mwyn cyflawni'r prosiect.

Mae'r Eglwys Gymunedol wedi cynnig y bydd y cyfleuster newydd ar gael i'w logi/ddefnyddio gan bob grŵp/sefydliad yn y gymuned, a'i nod yw darparu adeilad modern, addas at y diben, yn ardal Tŷ Sign.

Mae'r Eglwys Gymunedol wedi sicrhau cyllid allanol gan wahanol randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Loteri Fawr, i helpu'r prosiect.

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

Mae'r ymgynghoriad hwn yn caniatáu i drigolion ddweud eu dweud ar y cynnig i brydlesu'r darn o dir dan sylw, ac mae'n rhan o'r broses y bydd y Cyngor yn ei defnyddio i benderfynu ar y mater hwn.

Dogfennau

Darn o dir

Adroddiad ar gyfer y Cabinet

Sylwadau'r Cynghorwyr

Ffyrdd o fynegi eich barn

Arolwg ar-lein

Llenwi copi caled, a'i gyflwyno trwy radbost neu mewn man gollwng lleol

Ymholiadau

Mae modd gofyn am gopi caled o'r arolwg trwy e-bostio hamdden@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 863072

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

Ymgynghoriad 6 wythnos o hyd sy'n dechrau ar 9 Awst 2021. Tua 10 diwrnod ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben i gwblhau'r gwaith dadansoddi. Bydd y canfyddiadau'n rhan o adroddiad ar gyfer y Cabinet – dyddiad i'w gadarnhau.

Canlyniadau disgwyliedig

Bydd trigolion lleol yn ymgysylltu â'r ymgynghoriad yn llawn, gan ddarparu amrywiaeth o safbwyntiau a fydd yn llywio ac yn ategu'r penderfyniad ynghylch y cais am ddarparu prydles yn achos y darn o dir dan sylw.

.