Dewis Ysgol Gynradd
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
Fel awdurdod lleol, mae gennym ddyletswydd i gynllunio lleoedd mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o leoedd i blant y mae eu rhieni yn dymuno iddynt gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, trwy gyfrwng y Saesneg, neu mewn ysgol Ffydd.
I ddarganfod mwy am yr iaith Gymraeg, cyfeiriwch at y ddolen ganlynol gan Lywodraeth Cymru http://cymraeg.gov.wales/learning/schools/children-ages-4-11/?lang=cy
Mae gwybodaeth o ran ysgolion o fewn Caerffili ar gael yn y Llyfryn Dechrau Ysgol. Mae'r Llyfryn Dechrau Ysgol yn cynnwys gwybodaeth fel dyddiadau cynnig a chau ar gyfer dyrannu lleoliad ysgol.
Fel rhiant i blentyn cyn oedran ysgol, bydd yn ein helpu gyda’n cynllunio os allech chi gwblhau'r holiadur sydd ynghlwm.
Dyddiad cau'r arolwg yw dydd Gwener 21ain Rhagfyr 2018.
Nodwch nad yw’r ffurflen hon yn gais am le ysgol ac nid yw'n warant o le ar gyfer unrhyw ysgol benodol. Dylid gwneud ceisiadau fel yr amlinellir yn y Llyfryn Dechrau Ysgol.
Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i sicrhau bod gennym y ddarpariaeth ysgol briodol a lleoedd gofal plant i'n galluogi i fodloni dewis rhieni. Byddwn yn ddiolchgar os allech gymryd rhai munudau i gwblhau'r arolwg hwn.
Diolch yn fawr o flaen llaw am eich cymorth wrth ganiatáu i'r Awdurdod sicrhau bod darpariaeth addysgol ddigonol yn yr ardal.