Cais o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Teitl

Cais o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Dyddiad agor

17/05/2023

Dyddiad cau

16/06/2023

Trosolwg

Mae'r cwmni o'r enw Bryn Aggregates Ltd, Gelliargwellt Farm, Gelligaer, Hengoed, CF82 8FY Rhif y Cwmni: 08802388 wedi cyflwyno cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am drwydded i gynnal prosesau chwareli.
 
Mae'r cais wedi'i roi ar y gofrestr gyhoeddus yn: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7PG, ac mae modd ei harchwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol.
 
Dylid gwneud unrhyw sylwadau ar y cais yn ysgrifenedig i: Iechyd yr Amgylchedd – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG neu eu cyfeirio at GweinydduIA@caerffili.gov.uk erbyn 31 Mai 2023. Bydd pob sylw ysgrifenedig yn cael ei gynnwys ar y gofrestr gyhoeddus oni bai ei fod yn cynnwys datganiad yn gofyn am beidio â'i gynnwys. Os bydd cais o'r fath, bydd y gofrestr ei hun yn cynnwys nodyn i ddweud bod sylwadau wedi'u gwneud sydd ddim ar y gofrestr oherwydd cais o'r fath.

Pam rydym yn ymgynghori?

Fel yr uchod

Dogfennau

Sylwch fod y dogfennau ynghlwm wrth yr ymgynghoriad wedi'u darparu trwy drydydd parti ac felly eu bod yn Saesneg.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Os hoffech chi wneud sylw ar y cais, anfonwch e-bost i GweinydduIA@caerffili.gov.uk 

Ymholiadau

Anfonwch e-bost i Browna2@caerphilly.gov.uk.

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

Ddim yn berthnasol

Canlyniadau disgwyliedig

Rhoddir ystyriaeth ddyledus i holl ymatebion yr ymgynghoriad cyn cyhoeddi Trwydded Amgylcheddol derfynol.