Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022–2032

Teitl

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022–2032

Dyddiad agorwyd

15/10/2021

Dyddiad Cau

10/12/2021

Trosolwg

Mae gennym darged uchelgeisiol i gynyddu’r nifer o ddisgyblion a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2032 ac rydym wedi datblygu gweithredoedd lefel uchel trwy bob agwedd yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i gyflawni hyn.

Mae'r cynllun hwn yn amlinellu sut yr ydym yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o randdeiliaid i weithio tuag at gyflawni uchelgais Cymraeg 2050 o filiwn o siaradwyr Cymraeg, yn ogystal â Rhaglen Lywodraethu 2021-2026. Bydd yr arian yn cefnogi ein dyheadau ar gyfer Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus beth bynnag eich statws economiadd-gymdeithasol. Mae'r cynllun hwn wedi'i gysylltu'n gynhenid â chyflawni ein targedau integredig, gan ddefnyddio'r egwyddorion datblygu cynaliadwy, ar draws bwrdeistref sirol Caerffili gan gynnwys cynllun Asesu Digonolrwydd Gofal Plant 2022-2027, Strategaeth Iaith Gymraeg 2022-2027 a'n Cynllun Corfforaethol Caerffili 2018-2023 yn enwedig Amcan 1, Gwella Cyfleoedd Addysg i Bawb, a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 - Amcan 5 - Iaith Gymraeg.

Ein targed 10 mlynedd dros oes y cynllun hwn yw cynyddu'r lleoedd ym mlwyddyn 1 i rhwng 26% (520) a 30% (600) o blant mewn addysg gyfrwng Gymraeg erbyn 2030/31.

Llywodraeth Cymru sy'n gosod y targed lleiaf o 26% ar gyfer dysgwyr ym mlwyddyn 1 erbyn 2032 er mwyn cwrdd â'r targed 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn targed 2050. Er mwyn cyrraedd y targed uchelgeisiol hwn, bydd angen i ni adeiladu Ysgol Gynradd newydd ac ehangu ysgolion eraill i greu'r lleoedd. Yn ogystal, bydd angen cynllun cyfathrebu arnom i gynyddu nifer o bobl sydd yn derbyn y lleoedd hynny. Bydd hefyd angen darpariaeth ychwanegol yn Ti a Fi a’r Cylchoedd Meithrin yn y blynyddoedd cynnar.

Pan fyddwn yn ehangu ein darpariaeth addysg Gymraeg, bydd angen i ni hefyd ehangu ein gweithlu sy'n siarad Cymraeg ynghyd â nifer sylweddol o gamau eraill a amlygwyd ar ddiwedd pob maes canlyniad o'r cynllun.

Pam rydyn ni'n ymgynghori?

I gydymffurfio â Rheoliadau Cynllun Strategol Cymru mewn Addysg (Cymru) 2019 a Rheoliadau Cynllun Strategol Cymru mewn Addysg (Cymru) (Diwygio) (Coronafirws) 2020.

Er mwyn sicrhau bod ein holl randdeiliaid yn gallu gweld y wybodaeth a'r targedau a rhoi sylwadau arnynt os oes agweddau ar goll neu ddim yn cael eu hystyried sydd eu hangen.

Dogfennau

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022–2032

Ffurflen ymgynghori

Ffyrdd o roi eich barn

Gallwch ddychwelyd y ffurflen hon atom trwy e-bost blynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk neu trwy’r post at: Blynyddoedd Cynnar, 3ydd llawr, Tŷ Penallta, Parc Busnes Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG. Cysylltwch â ni ar 01443 863232 os oes ydych eisiau’r ffurflen mewn iaith neu fformat arall.

Dyddiad a ddisgwylir canlyniadau

Bydd yr holl sylwadau'n cael eu hystyried ar gyfer unrhyw welliannau sydd eu hangen yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2022.

Canlyniadau disgwyliedig

Sylwadau ynghylch digonedd gwybodaeth a pherthnasedd gweithredoedd lefel uchel, ynghyd â nodi unrhyw wybodaeth neu gamau sydd ar goll.