Drafft Uwchgynllun Cwm Sirhywi Isaf a Chwm Ebwy Isaf

Teitl

Drafft Uwchgynllun Cwm Sirhywi Isaf a Chwm Ebwy Isaf

Dyddiad agor

19/01/2022

Dyddiad cau

02/03/2022

Trosolwg

Hoffem ni glywed eich barn ar uwchgynllun newydd cyffrous ar gyfer Cwm Sirhywi Isaf a Chwm Ebwy Isaf. Bydd Uwchgynllun Cwm Sirhywi Isaf a Chwm Ebwy Isaf yn gyfle cyffrous i nodi cyfeiriad yr ardal yn y dyfodol.

Bydd yr uwchgynllun yn ceisio adeiladu at gryfderau presennol yr ardal drwy: .

  • Ychwanegu at ei rôl fel canolfan ar gyfer busnes, cyflogaeth, gwasanaethau, manwerthu a chwaraeon;
  • Datgloi twf economaidd sylweddol;
  • Creu swyddi a denu buddsoddiad gan y sector preifat;
  • Cyflawni ei photensial fel canolfan ranbarthol drwy fenter Metro De-ddwyrain Cymru.

Bydd yr uwchgynllun yn nodi prosiectau yng Nghwm Sirhywi Isaf a Chwm Ebwy Isaf a allai sicrhau buddiannau economaidd sylweddol a bydd yn cynnig fframwaith i gyflwyno'r prosiectau hynny. Mae'n bwysig nodi mai cynigion drafft yw'r prosiectau hyn, sy'n cael eu cyflwyno er mwyn cael eich barn arnynt. Efallai y bydd rhai ohonynt yn newid o ganlyniad i'r sylwadau sy'n dod i law. .

Rydyn ni’n awyddus iawn i glywed eich barn am y ddogfen hon a beth yw eich blaenoriaethau ar gyfer gweithredu. .

Pam rydym yn ymgynghori?

Darganfod beth yw barn pobl am Brif Gynllun Drafft Uwchgynllun Cwm Sirhywi Isaf a Chwm Ebwy Isaf.

Dogfennau

Drafft Uwchgynllun Cwm Sirhywi Isaf a Chwm Ebwy Isaf.

Bydd copïau caled ar gael mewn llyfrgelloedd cyhoeddus (yn ardal yr uwchgynllun yn unig) ac ar gais.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Os hoffech wneud sylwadau ar y ddogfen hon, llenwch yr arolwg ar-lein drwy ddefnyddio'r ddolen isod, neu fel arall, bydd copïau papur o'r arolwg hwn ar gael ym mhob llyfrgell (yn ardal yr uwchgynllun yn unig) yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Dolen i arolwg ar-lein

Rhaid dychwelyd copïau papur wedi'u cwblhau o'r arolwg i CBSC, Tŷ Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7WF.

Noder bod rhaid i bob arolwg wedi'i gwblhau ddod i law erbyn canol nos, 2 Mawrth 2022. Ni chaiff arolygon a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried.

Ymholiadau

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r ddogfen hon neu'r ymgynghoriad, rhowch wybod i ni yn adfywio@caerffili.gov.uk.

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben 02/03/2022.

Canlyniadau disgwyliedig

Bydd sylwadau'r cyhoedd yn dylanwadu ar gynnwys fersiwn terfynol yr uwchgynllun.