Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024

Agor

11 Tachwedd 2019

Cau

6 Rhagfyr 2019

Trosolwg

Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn ar gyfer 2020-2024 yn cael ei ddatblygu i ddangos ymrwymiad y Cyngor i fodloni Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2011.  Bydd yn amlygu cysylltiadau â’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau ar Safonau'r Gymraeg a materion Hawliau Dynol a sut mae'n ategu tri o’r saith nod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru, sef Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol a Chymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Pam rydym yn ymgynghori?

Nod yr ymgynghoriad hwn yw gofyn barn y staff, y trigolion, y rhanddeiliaid a’r aelodau etholedig ar yr amcanion i egluro eu barn ar y camau mwyaf priodol i'w cynnwys yn y cynllun.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 6 Rhagfyr 2019 a’r canlyniadau yn cael eu defnyddio i lywio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol terfynol, a fydd yn cael ei weithredu o fis Ebrill 2020.

Dogfennau

Ffyrdd o fynegi eich barn

Ymgynghoriad wedi cau

Ymholiadau

Os hoffech chi’r wybodaeth hyn mewn unrhyw iaith neu fformat arall cysylltwch â ni ar 01443 864404 neu e-bostiwch cydraddoldeb@caerffili.gov.uk.

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

Bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei drafod ym Mhwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau ar ddydd Mawrth 25 Chwefror 2020 ac ar gael ar wefan y Cyngor o ddydd Mercher 19 Chwefror 2020

Canlyniadau disgwyliedig

Byddwn yn darparu crynodeb o'r sylwadau fel adroddiad.