Ymgynghoriad ysgol newydd Abertyswg a Phontlotyn

Mae'r ddogfen ymgynghori yn egluro cynnig ysgol 3-18 Rhymni y gobeithir ei chyflwyno o 1 Ionawr 2018.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu a sefydlu dulliau arloesol o addysgu a dysgu. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau gwell canlyniadau trwy gynyddu parhad mewn dysgu disgyblion a strategaeth gydgysylltiedig at ddysgu, gofal bugeiliol a chymorth.

Cynhaliwyd cyfarfod ym mis Mawrth 2016 gyda chynrychiolwyr o'r canlynol:

  • Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Abertyswg, Ysgol Gynradd Pontlotyn ac Ysgol Gyfun Rhymni
  • Aelodau'r Cyngor Lleol
  • Uwch swyddogion CBSC 

Roedd y rhai oedd yn bresennol yn cefnogi'r cynnig i sefydlu ysgol 3 – 18 Rhymni.

Er mwyn symud y cynnig hwn ymlaen, mae'n ofynnol i'r Cyngor gynnal proses ymgynghori statudol.  Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn rhoi cyfle i randdeiliaid i gyfrannu at y broses hon. Dyma eich cyfle i gyflwyno eich sylwadau i'r Cyngor i'w hystyried cyn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen ymhellach.

Digwyddiadau ymgynghori

Bydd y broses ymgynghori yn cael ei chynnal dros gyfnod o 6 wythnos rhwng 3 Ionawr a 16 Chwefror 2017. Mae yna nifer o ddigwyddiadau ymgynghori lle bydd y cynnig yn cael ei esbonio ac yn eich galluogi i ofyn cwestiynau.  Gweler y manylion isod:

Ysgol Gyfun Rhymni - Dydd Llun 16eg Ionawr 2017

  • Sesiynau Galw i Mewn ar gyfer disgyblion a staff 1pm i 3pm
  • Rhieni a gofalyddion 3pm i 5pm
  • Cyfarfod y Corff Llywodraethu a’r cyhoedd/y gymuned 5pm i 7pm

Ysgol Gynradd Pontlotyn - Dydd Mercher 18fed Ionawr 2017

  • Sesiynau Galw i Mewn ar gyfer disgyblion a staff 1pm – 3pm
  • Rhieni a gofalyddion 3pm i 5pm
  • Cyfarfod y Corff Llywodraethu a’r cyhoedd/y gymuned 5pm i 7pm 

Ysgol Gynradd Abertyswg - Dydd Llun 30ain Ionawr 2017

  • Sesiynau Galw i Mewn ar gyfer disgyblion a staff 1pm – 3pm
  • Rhieni a gofalyddion 3pm i 5pm
  • Cyfarfod y Corff Llywodraethu a’r cyhoedd/y gymuned 5pm i 7pm 

Dweud eich dweud

Gallwch ymateb drwy gyfrwng y ffurflen ymateb isod, drwy e-bost ar spragj@caerffili.gov.uk neu yn ysgrifenedig, i: Keri Cole, Prif Swyddog Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG.

Nodwch os ydych yn dymuno derbyn copi o'r adroddiad ymgynghori a gynhyrchir yn dilyn y broses ymgynghori.

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn gofyn am eich barn, ac edrychaf ymlaen at dderbyn eich sylwadau ar y cynnig cyffrous.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 16 Chwefror 2017.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd ymgynghoriadau ac arolygon (PDF)