Cais i adolygu prisiau cerbydau hacni

Mae'r Tîm Trwyddedu wedi cael dau gynnig i ofyn am adolygu tariff cerbydau hacni (prisiau). Efallai rydych chi'n cofio bod hwn wedi cael ei ddiwygio ddiwethaf yn 2018. Bydd y tariff yn gosod yr uchafswm sy'n gallu cael ei godi am daith mewn cerbyd hacni.

Mae'r ddau gynnig, A a B, ynghlwm ar gyfer eich sylw chi.

Er gwybodaeth, mae cymhariaeth o'r ddau gynnig sy'n rhoi dadansoddiad o'r tariffau arfaethedig yn seiliedig ar deithiau 1-5 milltir a theithiau 10 milltir wedi cael ei pharatoi. Gallwch chi weld hwn drwy glicio ar y Dolen i Gynnig A a B.

Os hoffech chi wneud sylw ar y cynigion, cliciwch ar y ddolen i lenwi'r arolwg atodedig.

Prisiau tacsis – fersiwn y gellir ei hargraffu (PDF)

O’r ddau gynnig:

Dolen i Gynnig A

Yn awgrymu cynnydd y tariff o ran amser aros o 10 ceiniog bob 30 eiliad i 20 ceiniog bob 30 eiliad. Dylai Tariff 2 gael ei ddiwygio i fod yn effeithiol o 22:00 tan 06:00 ac nid o 19:00 tan 07:00, 7 diwrnod yr wythnos.

Wrth lenwi'r arolwg, dylech chi ystyried a ydych chi'n cytuno y dylai Tariff 2 fod yn effeithiol o 22:00 tan 06:00 ac nid o 19:00 tan 07:00, 7 diwrnod yr wythnos.

Dolen i Gynnig B

Yn awgrymu cynnydd y tariff o ran amser aros o 10 ceiniog bob 30 eiliad i 20 ceiniog bob 30 eiliad. Dylai Tariff 2 fod yn effeithiol o 19:00 nos Wener i 07:00 fore Llun.

Wrth lenwi'r arolwg, dylech chi ystyried a ddylai Tariff 2 fod yn effeithiol o 19:00 nos Wener i 07:00 fore Llun.

Mae cyfle yn yr arolwg i nodi a ddylai tariff cerbydau hacni aros yr un fath.

Dolen i Gynnig C

Dim cynnydd.

Dyddiad cau: 12/02/2022