Cau Arfaethedig o Ganolfan Hamdden Pontllan-fraith
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cynlluniau i gau Canolfan Hamdden Pontllan-fraith.
Caewyd Ysgol Gyfun Pontllan-fraith, a rannodd yr un safle â'r Ganolfan Hamdden, yn gynharach eleni ac mae rhaglen ddymchwel yn cael ei datblygu i baratoi'r hen safle ar gyfer defnydd yn y dyfodol.
Mae'r cyngor bellach yn ystyried dyfodol y Ganolfan Hamdden, yn enwedig gan fod angen gwaith gwelliant sylweddol ar yr adeilad a bod cyfleusterau amgen newydd ar gael yn awr yn yr ardal gyfagos.
Agorwyd ysgol newydd (Ysgol Uwchradd Islwyn) ym mis Mehefin 2017 i ddisodli hen Ysgolion Cyfun Pontllan-fraith ac Oakdale. Mae gan y cyfleuster newydd yn Oakdale gyfleusterau trawiadol gan gynnwys neuadd chwaraeon 4 cwrt, 4 cwrt tenis, cae pêl-droed a rygbi 3G deuol a stiwdio ddawns amlbwrpas. Hoffai'r cyngor hefyd adleoli'r cae pêl-droed 3G yng Nghanolfan Hamdden Pontllan-fraith i Ysgol Gyfun Coed Duon, yn amodol ar argaeledd cyllid.
Mae'n bwysig bod defnyddwyr Canolfan Hamdden Pontllan-fraith yn cael cyfle i fynegi eu barn am y cynigion cyn i'r cyngor wneud unrhyw benderfyniad terfynol. Cynhelir cyfnod ymgynghori o 6 wythnos o 2 Hydref 2017 i 24 Tachwedd 2017 a gofynnir i ddefnyddwyr y cyfleuster, yn ogystal â'r gymuned ehangach, am eu hadborth ar y cynigion cau.
Ymgynghorir â chlybiau, grwpiau cymunedol a defnyddwyr unigol fel y gall y cyngor sefydlu lefel y galw am gyfleusterau hamdden a phenderfynu a oes darpariaeth arall ar gael mewn mannau eraill yn y gymuned.
Datblygwyd arolwg y gellir ei gwblhau a'i gyflwyno ar-lein ar
Cau Arfaethedig o Ganolfan Hamdden Pontllan-fraith
Fel arall, gellir codi copi wedi'i argraffu o'r dderbynfa yn y ganolfan hamdden neu drwy gysylltu â 01443 864354 / sharme@caerffili.gov.uk.