Cynllun Corfforaethol (gan gynnwys Amcanion Lles)

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn seiliedig ar bum Amcan Llesiant. Mae'r amcanion yn nodi'r hyn mae'r Cyngor yn gobeithio ei gyflawni ar ran ei gymunedau dros gyfnod o bum mlynedd rhwng 2023 a 2028.  Mae pob amcan wedi'i ategu gan sawl canlyniad, set o fesurau blaenoriaeth ac amrywiaeth o gamau. 

Amcanion Llesiant y Cyngor ar gyfer 2023-2028 yw:

  • Amcan Llesiant 1 - Galluogi Ein Plant i Lwyddo mewn Addysg                  
  • Amcan Llesiant 2 - Galluogi Ein Trigolion i Ffynnu
  • Amcan Llesiant 3 - Galluogi Ein Cymunedau i Ffynnu
  • Amcan Llesiant 4 - Galluogi Ein Heconomi i Dyfu
  • Amcan Llesiant 5 - Galluogi Ein Hamgylchedd i fod yn Wyrddach

Cafodd y Cynllun ei gymeradwyo gan y Cyngor ar 29 Tachwedd 2023.

Mae’r Amcanion Gwella ar gael yn Saesneg neu mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.

Hoffem gael eich barnau ar yr Amcanion Gwella Lles cyfredol a gallwch roi gwybod i ni drwy glicio ar y botwm isod.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu adborth neu os hoffech gymryd rhan mewn helpu  gosod blaenoriaethau’r cyngor neu ar unrhyw un o’r cynnwys uchod, cysylltwch â’r Tîm Gwella Busnes.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd ymgynghoriadau ac arolygon (PDF)

Cysylltwch â ni