Arolwg Allgáu Digidol

Cyngor Caerffili, ynghyd â 5 Awdurdod Lleol arall - Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy a Thorfaen - gan Gronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Cymru i gynnal astudiaeth 6 wythnos o hyd am Allgáu Digidol. 

Bydd tîm o ymchwilwyr yn casglu data gan drigolion, grwpiau a sefydliadau cymunedol, dysgwyr a thiwtoriaid ym maes Addysg Gymunedol i Oedolion a darpariaethau cyflogadwyedd a'u cyfranogwyr. 

Bydd yr ymchwil yn ein helpu ni i ddeall defnydd unigolion o ddyfeisiau digidol, cysylltedd a sgiliau digidol i'n helpu ni i feddwl am sut y gallem ni gynorthwyo trigolion yn well wrth ddefnyddio technoleg gwybodaeth ar gyfer gweithgareddau o ddydd i ddydd. 

Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymchwil hwn, llenwch yr holiadur byr ar-lein trwy glicio'r ddolen isod.  Mae croeso i chi gynorthwyo ffrindiau ac aelodau o'ch teulu nad oes ganddyn nhw fynediad at ddyfais ddigidol na chysylltedd i gwblhau'r holiadur hefyd (gan ddilyn Canllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru).  Mae hefyd gennym ni rhif ffôn y mae modd ffonio os hoffech chi lenwi'r holiadur dros y ffôn 01495 233293 (oriau swyddfa).