Ymgynghoriad ar yr adolygiad o Grantiau Adfywio CBSC

Cyflwynwyd adroddiad i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar 27 Chwefror 2019 ar yr adolygiad o Grantiau Adfywio CBSC. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymgynghori'n ehangach ar gynigion i gyfuno nifer o raglenni grant a redir gan y Cyngor yn Gronfa Fenter Caerffili sy'n canolbwyntio ar ddatblygu twf busnes a chreu cyfleoedd cyflogaeth. Y rhesymeg y tu ôl i gyfuno'r grantiau yn un gronfa yw cynnig gwell cymorth i gychwyn busnesau, ysgogi twf economaidd, llenwi gwagleoedd penodol yn y gadwyn gyflenwi a chefnogi creu swyddi.

Gweler y dogfennau perthnasol isod:

https://democracy.caerphilly.gov.uk/documents/s27844/Review%20of%20CCBC%20Regeneration%20Grants.pdf?LLL=0

Er mwyn ariannu'r rhaglen newydd, mae swyddogion yn cynnig dileu'r grantiau adfywio presennol, gan gynnwys y Gronfa Adfywio Cymunedol. Er y bydd y gyfundrefn grantiau ar agor i grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol, bydd angen iddynt ddangos tystiolaeth bod eu prosiectau'n canolbwyntio ar weithgarwch economaidd.

Bydd adroddiad pellach yn amlinellu canlyniadau'r broses ymgynghori yn cael ei gyflwyno maes o law i'r Cabinet.