Swyddfeydd Arian 

Sylwch: O ddydd Llun 4 Gorffennaf 2022, bydd gennym ni nifer cyfyngedig o apwyntiadau ar gael yn rhai o’n Canolfannau Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01443 866571.

Taliadau dros y We

Yn hytrach nag ymweld â swyddfa arian parod, gallwch nawr wneud y taliadau canlynol ar-lein 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos:

  • Treth gyngor
  • Dirwyon parcio
  • Blaendaliadau tai
  • Gordaliadau budd-daliadau tai
  • Rhent tai cyngor
  • Ardrethi busnes
  • Mân ddyledwr (anfonebau)
  • Dŵr Cymru

Mae'r cyfleuster Taliad Cyflym yn eich galluogi i dalu biliau'n ddiogel ar-lein heb orfod cofrestru cyfrif na mewngofnodi.

GWNEUD TALIAD

Taliadau dros y ffôn

Gellir gwneud taliadau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, drwy ddefnyddio ein gwasanaeth talu dros y ffôn awtomatig ar 01443 863366.

Cysylltiadau ffôn

Mae pob un o'r 8 swyddfa arian parod yn swyddfeydd penodedig ar gyfer derbyn hawliadau am fudd-dal tai neu ostyngiad yn y dreth gyngor. 

  • Ar gyfer ymholiadau cyffredinol i swyddfeydd arian parod  ffoniwch 01443 815588
  • Ar gyfer ymholiadau am y dreth gyngor ffoniwch 01443 863002
  • Ar gyfer ymholiadau am fudd-dal tai a gostyngiad yn y dreth gyngor ffoniwch 01443 864133 (ar gyfer tenantiaid preifat) neu 01443 864022 (ar gyfer tenantiaid y cyngor)