Gwasanaethau i Gwsmeriaid Tŷ Penallta
Cyfeiriad
Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG
Amseroedd agor
- Dydd Llun 9am i 5pm (Ar gau ar wyliau banc)
- Dydd Mawrth 9am i 5pm
- Dydd Mercher 9am i 5pm
- Dydd Iau 9am i 5pm
- Dydd Gwener 9am - 5pm
- Ar gau ar ddydd Sadwrn
- Ar gau ar ddydd Sul
Sut i gyrraedd yno
Yn y Car
Os ydych yn mynd i Wasanaethau Cwsmeriaid Tŷ Penallta yn y car mae cyfeiriadau ar gael ar Google Maps.
Mae llefydd parcio i ymwelwyr hefyd ar gael. Wrth gyrraedd Parc Tredomen, ewch syth ymlaen nes i chi gyrraedd cylchfan fechan lle mae llefydd parcio i ymwelwyr ar yr ail a’r drydedd allanfa. Ewch i mewn i’r adeilad drwy’r brif fynedfa ar flaen yr adeilad. Mae’r rhwystrau a reolir gan oleuadau yn arwain at barcio a gedwir i staff, a’r mae’r bont gerdded o’r meysydd parcio i staff i’r adeilad at ddefnydd staff yn unig. Ni allwch gael mynediad i’r adeilad arnynt.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae gwasanaethau bws rheolaidd yn ôl ac ymlaen o Ystrad Mynach a’r ardaloedd cyfagos. Ewch i Bysus - prisiau ac amserlenni am wybodaeth am basys bws, prisiau ac amseroedd.
Gwasanaethau’r ganolfan
Caiff ymgynghorwyr gwasanaeth cwsmeriaid eu hyfforddi’n llawn i’ch helpu gydag unrhyw ymholiad sydd gennych ar unrhyw un o wasanaethau’r cyngor gan gynnwys:
- Gwneud cais am fudd-dal tai
- Chwilio am swyddi gwag
- Cais i gasglu gwastraff swmpus
- Cais am fathodyn parcio i bobl anabl
- Talu’ch treth y cyngor
- Cais am bàs teithio i bobl hŷn
- Cael cymorth â phensiynau’r wladwriaeth os ydych dros 60 oed
- Adrodd tyllau yn y ffyrdd
- Adrodd golau stryd wedi’i dorriCais i atgyweirio tŷ cyngor
Cyfleusterau
- Ample parking adjacent to the building
- Dolen Sain
- Mynediad gwastad
- Croeso i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01443 815588 neu e-bostiwch y Gwasanaethau Cwsmeriaid.