Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol 

Mae’r wybodaeth gyswllt sydd ei hangen arnoch yn wahanol ar gyfer oedolion, plant ac argyfyngau. 

Gwasanaeth cymdeithasol oedolion 

Os ydych chi’n credu eich bod chi neu unrhyw un arall angen help neu gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, cysylltwch â ni. Gallai hyn fod oherwydd fod gennych anabledd corfforol, anawsterau clywed neu weld, salwch angheuol, yn datblygu dementia/dryswch, yn fregus, yn agored i esgeulustra neu gamdriniaeth, ag anabledd dysgu, problem iechyd meddwl, yn gadael yr ysbyty neu’n ofalwr. 

Os ydych chi’n cael eich cam-drin neu os ydych chi’n meddwl bod rhywun arall yn cael ei gam-drin, dylech ddweud wrth rywun.

Os ydych chi'n meddwl y gallwn helpu, cysylltwch â ni neu ewch i'n hadran help a chymorth i oedolion a phobl hŷn.

Gwasanaethau cymdeithasol plant 

Os ydych yn amau bod plentyn yn dioddef a'ch bod yn bryderus, neu os ydych yn bryderus bod plentyn wedi dioddef o niwed, esgeulustra neu gamdriniaeth, rhowch wybod i ni ar unwaith 

Gallwn helpu os 

  • y gallai person ifanc fod mewn perygl o fod yn ddigartref
  • os oes gennych bryderon ynghylch plentyn
  • mae rhieni yn cael trafferth rheoli ymddygiad plentyn
  • os oes gan blentyn angen arbennig neu anabledd 

Os ydych chi'n meddwl y gallwn helpu, cysylltwch â ni neu ewch i'n hadran help a chymorth i oedolion a phobl hŷn.

Argyfyngau y tu allan i oriau 

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn cynnig gwasanaeth argyfwng y tu allan i oriau swyddfa arferol. Mae’r gwasanaeth hwn yn delio â sefyllfaoedd o argyfwng na allant aros tan y diwrnod gwaith nesaf. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan y tu allan i oriau neu cysylltwch â ni ar: 

  • Ffoniwch 0800 3284432
  • Minicom 0800 5879963