Cyfleoedd manwerthu Ystrad Mynach
Caiff Ystrad Mynach ei hadnabod yn lleol fel ‘y pentref’ ac mae’n tynnu ar ddalgylch sy’n cynnwys cymunedau Ystrad Mynach, Maes-y-cwmwr, Llanbradach, Gelligaer a Hengoed.
Un o nodweddion mwyaf sydd gan Ystrad Mynach yw ei synnwyr o le penodol. Mae cyfluniad y strydoedd yn creu canolbwynt manwerthu wedi’i diffinio’n glir, sy’n cynnwys manwerthwyr annibynnol bach, wedi’u cymysgu â gwasanaethau, gan gynnwys banciau, siopau trin gwallt, llyfrgell, eglwysi a Swyddfa Bost. Wedi ei leoli ar gyrion canol y dref, gyda chysylltiadau da i gerddwyr mae dwy archfarchnad, sef Lidl a Tesco.
Mae’r ardal o gwmpas Ystrad Mynach wedi gweld cwblhad nifer o brosiectau allweddol dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi trawsnewid yr ardal. Caiff prif swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach eu lleoli ar hen safle diwydiannol yn agos at ganol y dref fel rhan o Barc Busnes Tredomen.
Mae ysbyty newydd, Ysbyty Ystrad Fawr a Chanolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, ill dau wedi eu hadeiladu i’r de o’r dref, yn agos at gampws Coleg y Cymoedd sydd â 13,000 o fyfyrwyr. Fel rhan o’r datblygiadau hyn, mae buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud yn y seilwaith priffyrdd sy’n agor i fyny ‘r dref i ddalgylch llawer ehangach.
Mae Parc Gwledig Parc Penallta wedi ei leoli ger y dref ac yn cynnwys dros 180 hectar o dir. Mae’r parc yn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored a digwyddiadau arbennig gan gynnwys gwyliau cerddoriaeth a chynyrchiadau theatr awyr agored.
Os hoffech siarad â rhywun am gyfleoedd manwerthu yng Ystrad Mynach, neu os hoffech gopi o’r Portffolio Buddsoddi a’r adroddiadau ystadegol annibynnol, cysylltwch â Thîm Rheoli Canol y Dref.