Cyfleoedd manwerthu Bargod

Stay Connected

Gallwch nawr gofrestru am hysbysiadau e-bost i gael gwybod am newyddion diweddaraf canol tref a Dewiswch y Stryd Fawr. Rydym hefyd yn cynnig tanysgrifiadau i wasanaethau a newyddion arall y cyngor.

Bargod, sydd wedi’i leoli yng Nghwm Rhymni, yw’r dref fwyaf gogleddol o’r prif ganolfannau manwerthu.

Dyma’r drydedd dref fwyaf ar ôl y canolfannau isranbarthol Caerffili a Choed Duon a’r fwyaf o’r pedwar canolfan ardal. Mae’r dalgylch ar gyfer y dref yn cynnwys Rhymni, Fochriw, Pontlotyn, Abertyswg, Deri, Tredegar Newydd, Aberbargod a Gilfach, gyda phoblogaeth gyfunol o dros 26,000.

Mae gan y cyn-dref lofaol nifer o fanwerthwyr lluosog, gan gynnwys: Original Factory Shop, Poundworld, Peacocks, Dorothy Perkins, Burtons, Greggs a Subway, yn ogystal ag ystod dda o fusnesau annibynnol bach.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r Cyngor wedi cynnal prosiect adfywio uchelgeisiol ym Margod o’r enw y ‘Syniad Mawr’. Mae hyn yn cynnwys nifer o elfennau gwahanol, gan gynnwys y ffordd newydd, gwerth £25 miliwn - Ffordd yr Angel - a adeiladwyd yn 2009 a gorsaf fysiau a chyfleuster parcio a theithio newydd ger yr orsaf drenau bresennol.

Rhan arall o’r ‘Syniad Mawr’ oedd trosi Eglwys y Bedyddwyr Hanbury i fod yn lyfrgell, uned adnoddau hanes lleol, cyfleuster Cwsmer yn Gyntaf a man addoli. Roedd y prosiect gwobrwyol yn bartneriaeth rhwng y Cyngor a Chymdeithas Tai Unedig Cymru.

Drwy gydol canol y dref mae cynllun tir y cyhoedd cynhwysfawr wedi trawsnewid y dref gan ddefnyddio’r cysyniad o ‘gofod a rennir’ er mwyn creu amgylchedd siopa cyfoes, sy’n cydbwyso mynediad i gerbydau a dosbarthu nwyddau llawn gyda’r angen am fwy o ryddid i gerddwyr.

Yn olaf, cafodd llwyfandir adwerthu newydd ei adeiladu a siop Morrisons wedi cael ei adeiladu, sy’n cysylltu cynllun manwerthu Sgwâr Lowry gyda’r stryd fawr bresennol. Mae hyn yn cynnwys wyth uned manwerthu newydd a osodwyd ar sgwâr cyhoeddus newydd, ac mae tenantiaid yn cynnwys Poundworld, Greggs a Subway.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech siarad â rhywun am gyfleoedd manwerthu ym Margod, neu os hoffech gopi o’r Portffolio Buddsoddi a’r adroddiadau ystadegol annibynnol, cysylltwch â Thîm Rheoli Canol y Dref.

ChooseTheHighStreetLogoWelsh400.jpgbargoeds_big_idea_logo.jpg

Cysylltwch â ni

Tudalennau Cysylltiedig

Siopa ym Margod