Gwerthu i'r cyngor
Cofrestru fel cyflenwr
Gallwch gofrestru fel cyflenwr ar ein cronfa ddata, a byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno ceisiadau ar gyfer cyfleoedd tendro.
Canllaw cofrestru cam-wrth-gam (PDF)
Rhaid i chi gofrestru cyn y gallwn eich gwahodd i gyflwyno unrhyw gynigion ar gyfer cyfleoedd tendro.
Os ydych yn gwmni adeiladu ac wedi'ch cofrestru gyda CONSTRUCTIONLINE mae'n rhaid i chi ychwanegu eich rhif CONSTRUCTIONLINE at eich proffil ar ôl cofrestru er mwyn cael eich gwahodd am gyfleoedd contract.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Jemma Ford - Swyddog Perthynas Cyflenwyr
Tel: 01443 863163
Ebost: fordj1@caerphilly.gov.uk
Cyflwyno tendr
Bydd y canllaw hwn yn helpu cyflenwyr drwy'r broses o gwblhau cyflwyniad tendr gan ddefnyddio ein system Proactis Plaza.
Canllaw E-Dendro Proactis Plaza (PDF)
Telerau ac Amodau’r Gorchymyn Prynu
Oni chytunwyd ar delerau ac amodau contract penodol ymlaen llaw, rhoddir archebion prynu o dan delerau ac amodau'r Gorchymyn Prynu y Cyngor.