Y CDLl Mabwysiedig

Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol ar 23 Tachwedd 2010 ac mae’n nodi lle gallai datblygiadau newydd fel tai, cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol a ffyrdd gael eu lleoli. Mae’n cynnig fframwaith ar gyfer penderfyniadau lleol ac yn dwyn ynghyd fuddiannau datblygu a chadwraeth i sicrhau bod unrhyw newidiadau o ran defnydd tir yn gydlynol ac yn sicrhau’r manteision mwyaf posibl i’r gymuned.

Mae’r CDLl yn nodi polisïau defnydd tir y cyngor a chynigion i reoli datblygiadau yn y fwrdeistref sirol hyd at 2021, ac yn cynnig sail ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio’n gyson a phriodol. Mae’r cynllun yn dangos yn glir lle caiff datblygiad ei annog a lle y caiff ei wrthwynebu.

Beth mae’r CDLl yn ei feddwl i mi a sut y bydd yn effeithio arnaf? (PDF 3mb)

Sut alla i gael copi o’r cynllun?

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn cynnwys tair rhan – Datganiad Ysgrifenedig, Atodiadau i’r Datganiad Ysgrifenedig a Map Cynigion.

Datganiad Ysgrifenedig (PDF 1mb)

Atodiadau i’r Datganiad Ysgrifenedig (PDF 5.7mb)

Map Cynigion Rhyngweithiol a Map Cyfyngiadau Rhyngweithiol 

Map Cyfyngiadau: Adeiladau Mewnol – Ardaloedd Chwilio am Wastraff (PDF 3.3mb)

Map Cyfyngiadau: Awyr Agored – Ardaloedd Chwilio am Wastraff (PDF 3mb)

Fel arall, os hoffech archebu copi o'r CDLl, cysylltwch â'r Adran Gynllunio. Mae pob copi’n costio £35 a thâl postio a phecynnu.

Dogfennau CDLl eraill

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw ymholiadau’n ymwneud â’r CDLl, cysylltwch â Thîm y CDLl.

Cysylltwch â ni