Community Infrastructure Levy - Annual Monitoring Report

Mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL) yn system o daliadau y gall awdurdodau lleol ddewis eu codi yn erbyn datblygiad newydd yn eu hardaloedd.  Nodir cyfraddau tâl gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad, yn dibynnu ar ba mor hyfyw y mae pob math o ddatblygiad.

Yna defnyddir y refeniw a gynhyrchir o CIL i ariannu seilwaith a fydd yn cefnogi datblygiadau arfaethedig yn y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol. Cafodd y CIL ei chyflwyno yn y Fwrdeistref Sirol ar 1 Gorffennaf 2014.  Mae'n dâl gorfodol sy'n cael ei godi yn erbyn pob datblygiad cymwys newydd.

Mae Rheoliad 62 o Reoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod casglu gyhoeddi adroddiad blynyddol mewn perthynas ag Ardoll Seilwaith Cymunedol ar gyfer pob blwyddyn pan fydd derbynebau CIL wedi'u casglu.

Cysylltwch â ni