Cydsyniad masnachu ar y stryd

Os ydych chi eisiau gwerthu, arddangos neu gynnig i’w gwerthu unrhyw eitem ar stryd yna mae’n rhaid ichi fod â thrwydded masnachu ar y stryd neu gydsyniad masnachu ar y stryd.

Mae’r gweithgareddau canlynol yn enghreifftiau o fasnachu ar y stryd a fyddai’n dod o dan y darpariaethau:

  • Faniau pysgod a sglodion
  • Faniau cebabau a byrgyrs
  • Faniau hufen iâ
  • Gwerthwyr blodau
  • Hysbysebu cerbydau i’w gwerthu ar ochr y ffordd

Mae’n bosibl nad yw’r rhestr uchod yn cynnwys y math o eitemau yr ydych eisiau eu gwerthu, ond nid yw’n golygu eich bod wedi’ch eithrio. Argymhellwn ichi gysylltu â ni i drafod eich cynlluniau yn enwedig cyn gwneud unrhyw ymrwymiadau ariannol sylweddol.

Bydd unrhyw berson a gaiff ei euogfarnu o fasnachu ar stryd cydsyniad, heb gydsyniad masnachu ar y stryd, yn euog o drosedd ac yn agored i gael dirwy o hyd at £1,000 yn dilyn euogfarn.

Ble y gallwch fasnachu a beth i’w ystyried

Dylech gysylltu â ni (trwyddedu) i drafod a yw’r stryd lle’r ydych eisiau lleoli’ch stondin neu’ch fan yn addas. Dylech hefyd ystyried:

  • Lleoliad
  • Diogelwch parcio
  • Rheoli traffig
  • Yr effaith amgylcheddol ar breswylwyr lleol (h.y. sŵn, sbwriel a llygredd aer)
  • A oes angen man gwerthu bwyd arall yn y pentref
  • Oriau gweithredu
  • Mynychder masnachu

Ffioedd

Cliciwch yma i weld y ffioedd trwyddedau

Sut i wneud cais

Mae ein pecyn cais yn darparu’r ffurflen gais, amodau cydsyniad, hysbysiad cyhoeddus a pholisi.

Cais am (adnewyddu) cydsyniad masnachu ar y stryd (PDF)

Hysbysiad cais am gydsyniad masnachu sefydlog ar y stryd (PDF)

Polisi Masnachu ar y Stryd (1 Mai 2017) (PDF)

Y broses gwneud cais

Cyn y byddwn yn rhoi cydsyniad masnachu ar y stryd, byddwn yn ymgynghori â’r awdurdodau perthnasol a’r partïon â buddiant canlynol:

  • Adrannau’r cyngor
    • Priffyrdd
    • Gwasanaethau Eiddo
    • Safonau Masnach
    • Gwasanaethau Cyhoeddus
    • Iechyd yr Amgylchedd
    • Cynllunio
    • Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
    • Datblygu Economaidd
    • Cynghorwyr y ward berthnasol
  • Eraill
    • Heddlu Gwent
    • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
    • Perchennog tir y safle arfaethedig ar gyfer masnachu ar y stryd

Ar gyfer ceisiadau sefydlog newydd bydd angen ichi hysbysebu manylion y gweithgareddau arfaethedig yn y cyffiniau, trwy osod yr hysbysiad cymeradwy yn agos i’r safle arfaethedig.

Bydd y broses ymgynghori’n cymryd rhwng dwy a thair wythnos. Os nad oes unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law yna byddwn yn rhoi cydsyniad, yn ddarostyngedig i amodau a  thaliad o’r ffi ofynnol.

Os daw gwrthwynebiadau i law, byddwn yn ceisio datrys unrhyw broblem rhyngoch chi a’r gwrthwynebwr. Os na ellir cytuno ar gyfaddawd, caiff y cais ei gyfeirio i’r Is-bwyllgor Trwyddedu (Tacsis a Chyffredinol) i gael penderfyniad. Gall hyn gymryd nifer o wythnosau.