Tystysgrifau diogelwch ar gyfer meysydd chwaraeon

Mae dau fath o dystysgrif, sef Tystysgrif Diogelwch Gyffredinol a Thystysgrif Diogelwch Arbennig.

Tystysgrif Diogelwch Gyffredinol

Rhaid ichi fod â Thystysgrif Diogelwch Gyffredinol os ydych yn gweithredu:

  • Maes chwaraeon neu stadiwm lle cynhelir digwyddiadau chwaraeon dynodedig ac sy’n darparu lle i fwy na 10,000 o wylwyr neu, yn achos Uwch-gynghrair neu Gynghrair Pêl-droed Lloegr, 5,000 o wylwyr
  • Eisteddle ar unrhyw faes chwaraeon neu mewn unrhyw stadiwm sy’n darparu lle dan do i 500 neu ragor o wylwyr nad yw wedi’i gynnwys eisoes ar faes chwaraeon/stadiwm dynodedig fel uchod. Eisteddle a Reoleiddir yw’r enw ar hwn

Tystysgrif Diogelwch Arbennig 

Rhaid ichi fod â Thystysgrif Diogelwch Arbennig i ddefnyddio maes chwaraeon ar gyfer gweithgaredd neu weithgareddau penodedig ar achlysur neu achlysuron penodedig os nad yw’r gweithgaredd neu weithgareddau wedi’u cynnwys yn y Dystysgrif Diogelwch Gyffredinol.

Pwy all wneud cais am dystysgrif diogelwch?

Rhaid ichi fod yn berson o gymeriad da sydd wedi’i awdurdodi i gynrychioli’r maes chwaraeon/stadiwm.

Yn achos Tystysgrif Diogelwch Arbennig, gall hyrwyddwr y digwyddiad wneud cais.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Gelir gwneud ceisiadau ar lein.

Cais am Dystysgrif Diogelwch Gyffredinol ar gyfer Eisteddle a Reoleiddir

Cais i newid Tystysgrif Diogelwch Gyffredinol ar gyfer Eisteddle a Reoleiddir

Cais am Dystysgrif Diogelwch Arbennig

Ffioedd

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau

Rhagor o wybodaeth a chyfarwyddyd

Canllaw i Ddiogelwch ar Feysydd Chwaraeon (PDF)
​Cysylltwch â ni

Elsewhere on the web

Sports Ground Safety Authority