Trwydded safle carafanau preswyl

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Mae deddfwriaeth benodol ar gartrefi symudol yn ymdrin â hawliau perchnogion cartrefi symudol. Mae hyn oherwydd, er bod perchnogion cartrefi symudol yn berchen eu cartref, gweithredwr y safle sy’n berchen y tir mae’n sefyll arno. Mae perchennog y cartref symudol yn talu rhent i weithredwr y safle i ddefnyddio’r llain.

Daeth Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dolen i wefan allanol) i rym ar 1 Hydref 2014. Mae’r gyfraith hon yn diweddaru’r gyfraith oedd yn bodoli eisoes, a grëwyd yn wreiddiol yn y 1960au ar gyfer cartrefi symudol preswyl. Mae wedi’i bwriadu i helpu i wella’r ffordd y caiff y diwydiant hwn ei reoleiddio er mwyn gwella’r amodau ar safleoedd cartrefi symudol a diogelu hawliau preswylwyr yn well.

Mae prif nodweddion y gyfraith newydd fel a ganlyn:

  • bydd yn ofynnol i berchnogion safleoedd wneud cais am drwydded oddi wrth eu hawdurdod lleol er mwyn rhedeg safle. Bydd y drwydded yn para hyd at 5 mlynedd
  • bydd angen i reolwyr safleoedd basio prawf ‘person addas a phriodol’ cyn cael trwydded
  • ni fydd perchnogion safleoedd yn gallu rhwystro gwerthiant cartref symudol mwyach. Bydd perchennog y cartref symudol yn rhydd i werthu ei gartref i bwy bynnag y dymuna
  • bydd awdurdodau lleol yn gallu archwilio safleoedd a chyflwyno hysbysiad cosb benodedig i berchnogion safleoedd os na chaiff safleoedd eu cadw mewn cyflwr derbyniol
  • mewn achosion mwy difrifol, bydd awdurdodau lleol yn gallu cyflwyno hysbysiad cydymffurfiaeth i berchnogion y safle i sicrhau bod y safle’n cael ei gadw mewn cyflwr derbyniol
  • dim ond yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr y gellir codi ffioedd lleiniau
  • bydd perchnogion safleoedd a phreswylwyr yn gallu apelio i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl mewn rhai amgylchiadau.

Gweithredu

Er y daeth y Bil yn ddeddf ym mis Tachwedd 2013, roedd cyfnod trosiannol o bron 12 mis cyn i’r holl ddarpariaethau ddod i rym ar 1 Hydref 2014. O 1 Hydref ymlaen mae gan awdurdodau lleol chwe mis i ail-drwyddedu pob safle (erbyn 1 Ebrill 2015) a bydd gan berchnogion safleoedd 12 mis i lunio a chyflwyno rheolau newydd i’r safle (erbyn 1 Hydref 2015).

Trwyddedau safle

Rhaid i bob safle cartrefi symudol fod â thrwydded safle wedi’i chyflwyno gan yr awdurdod lleol ar barc â chaniatâd cynllunio perthnasol. Mae gan awdurdodau lleol chwe mis i ddirymu trwydded ac ail-drwyddedu pob safle erbyn 1 Ebrill 2015.

Safonau Enghreifftiol

Safonau Enghreifftiol 2008 ar gyfer Safleoedd Carafanau yng Nghymru (dolen i wefan allanol) yw’r amodau a ddisgwylir fel arfer fel mater o arfer da ar safleoedd. Dim ond i garafanau preswyl maent yn berthnasol a gallant ymdrin â meysydd megis patrwm parciau cartrefi symudol a’r ddarpariaeth cyfleusterau, gwasanaethau a chyfarpar iddynt. Cyflwynodd y safonau hyn nifer o newidiadau; mae’r rhai mwyaf arwyddocaol yn ymwneud â’r canlynol:

  • ymdrin â ffiniau safle’r parc
  • egluro’r hyn y dylid ei ganiatáu ac na ddylid ei ganiatáu o fewn y gofod gwahanu chwe 6 metr rhwng cartrefi
  • caniatáu parcio un car rhwng cartrefi
  • y gofyniad am lawr caled o goncrit ar gyfer pob cartref
  • ymestyn y gofynion o ran draenio’r parc i gynnwys y lleiniau
  • sicrhau bod y rhannau cymunol o’r safle yn cael eu cadw mewn cyflwr da
  • nodi’r safonau gofynnol o ran cyflenwad dŵr, trydan, draenio a glanweithdra
  • gwneud yn glir nad yw’n ofynnol neilltuo tir ar gyfer man hamdden ond os oes plant yn byw ar y parc.

Gwybodaeth fanwl am y newidiadau allweddol yn Neddf 2013

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu taflen i breswylwyr safleoedd sydd wedi’i bwriadu i roi trosolwg defnyddiol ar y newidiadau allweddol a geir yn Neddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Mae cyfres o daflenni gwybodaeth ar gael isod sy’n esbonio’r newidiadau penodol yn fanylach:

Ffurflenni a phrosesau

Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn cyflwyno ffurflenni statudol y mae'n rhaid eu defnyddio wrth werthu cartref symudol a'i roi yn anrheg, newid ffioedd y lleiniau a newid rheolau'r safle.

Mae’r Rheoliadau’n rhagnodi’r ffurflenni y mae’n RHAID eu defnyddio ar gyfer pob un o’r prosesau hyn. Mae’r ffurflenni canlynol ar gael ichi eu llenwi a’u hargraffu.

Cysylltwch â ni