Trwyddedau amgylcheddol
Rhaid bod gennych drwydded amgylcheddol os ydych yn gweithredu cyfleuster a reoleiddir yng Nghymru neu Loegr.
Mae cyfleuster a reoleiddir yn cynnwys:
- safleoedd neu offer symudol sy’n cyflawni gweithgareddau rhestredig
- gweithrediadau gwastraff
- offer symudol gwastraff
- gweithrediadau gwastraff mwyngloddio
Mae’r gweithgareddau rhestredig yn cynnwys:
- ynni – gweithgareddau llosgi tanwydd, nwyeiddio, hylifo a phuro
- metelau – gweithgynhyrchu a phrosesu metelau
- mwynau – gweithgynhyrchu calch, sment, cynhyrchion ceramig neu wydr
- cemegion – gweithgynhyrchu cemegion, cynhyrchion fferyllol neu ffrwydron, storio cemegion mewn crynswth
- gwastraff – llosgi gwastraff, gweithredu safleoedd tirlenwi, adfer gwastraff
- toddyddion – defnyddio toddyddion
- arall – gweithgynhyrchu papur, mwydion coed a bord, trin cynhyrchion pren, caenu, trin tecstilau ac argraffu, gweithgynhyrchu teiars newydd, ffermio moch a dofednod yn ddwys
Rhennir gweithgareddau rhestredig yn dri chategori: Rhan A(1), Rhan A(2) a Rhan B.
Mae trwyddedau Rhan A yn rheoli gweithgareddau sy’n cael amrywiaeth o effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys:
- gollyngiadau i’r aer, tir a dŵr
- effeithlonrwydd ynni
- lleihau gwastraff
- defnyddiaeth deunyddiau crai
- sŵn, dirgryniadau a gwres
- atal damweiniau
Mae trwyddedau Rhan B yn rheoli gweithgareddau sy’n achosi allyriadau i’r aer.
Mae’r drwydded mae ar eich busnes ei hangen yn dibynnu ar y prosesau penodol dan sylw a’r gollyngiadau canlyniadol.
Mae trwyddedau ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd neu’ch awdurdod lleol (y rheoleiddiwr) gan ddibynnu ar y categori mae’ch busnes ynddo:
- Mae safleoedd neu offer symudol Rhan A(1) yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
- Mae safleoedd neu offer symudol Rhan A(2) a Rhan B yn cael eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol, ac eithrio gweithrediadau gwastraff a gyflawnir ar safleoedd Rhan B sy’n cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
- Mae gweithrediadau gwastraff neu offer symudol gwastraff a gyflawnir heblaw ar safle, neu gan offer symudol Rhan A neu Ran B, yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
- Mae gweithrediadau gwastraff mwyngloddio’n cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
Amodau’r drwydded
Trwyddedu Amgylcheddol – Amodau’r Drwydded (PDF 13kb)
Ffioedd
- £3318 am bob gweithgaredd Rhan A
- Gweithgaredd Safonol - £1629
- Offer symudol:
- Cais cyntaf ac ail gais - £1629
- Trydydd i seithfed cais - £972
- Wythfed cais a rhai wedi hynny - £492
- Gweithgareddau ffi ostyngol
- Ailorffenwyr cerbydau - £355
- Adfer Anwedd Petrol I a II ar y cyd - £252
- Pob gweithgaredd ffi ostyngol arall - £152
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am drwydded ar lein.
Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol B
Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol A2
Hysbysiad ildio trwydded (Rhan B) (PDF)
Cais i ildio trwydded (Rhan A2) (PDF)
Proses gwerthuso cais
Bydd y rheoleiddiwr yn ystyried diogelu’r amgylchedd o’i ystyried yn gyfan trwy, yn benodol, atal gollyngiadau i’r aer, dŵr a thir neu, lle nad yw hynny’n ymarferol, eu lleihau.
Mae’n bosibl y bydd y rheoleiddiwr yn rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cais a rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau.
Rhaid i’r cais fod oddi wrth weithredwr y cyfleuster rheoleiddiedig a rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi’i fodloni fod yn rhaid iddo weithredu’r cyfleuster yn unol â’r drwydded amgylcheddol.
Cydsyniad mud
Mae er budd y cyhoedd bod yn rhaid inni brosesu’ch cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 14 diwrnod, dylech gysylltu â ni.
Rhaid inni benderfynu ar geisiadau cyn pen 4 mis ar ôl i gais gael ei wneud.