Trwyddedau amgylcheddol

Rhaid bod gennych drwydded amgylcheddol os ydych yn gweithredu cyfleuster a reoleiddir yng Nghymru neu Loegr.

Mae cyfleuster a reoleiddir yn cynnwys:

  • safleoedd neu offer symudol sy’n cyflawni gweithgareddau rhestredig
  • gweithrediadau gwastraff
  • offer symudol gwastraff
  • gweithrediadau gwastraff mwyngloddio

Mae’r gweithgareddau rhestredig yn cynnwys:

  • ynni – gweithgareddau llosgi tanwydd, nwyeiddio, hylifo a phuro
  • metelau – gweithgynhyrchu a phrosesu metelau
  • mwynau – gweithgynhyrchu calch, sment, cynhyrchion ceramig neu wydr
  • cemegion – gweithgynhyrchu cemegion, cynhyrchion fferyllol neu ffrwydron, storio cemegion mewn crynswth
  • gwastraff – llosgi gwastraff, gweithredu safleoedd tirlenwi, adfer gwastraff
  • toddyddion – defnyddio toddyddion
  • arall – gweithgynhyrchu papur, mwydion coed a bord, trin cynhyrchion pren, caenu, trin tecstilau ac argraffu, gweithgynhyrchu teiars newydd, ffermio moch a dofednod yn ddwys

Rhennir gweithgareddau rhestredig yn dri chategori: Rhan A(1), Rhan A(2) a Rhan B.

Mae trwyddedau Rhan A yn rheoli gweithgareddau sy’n cael amrywiaeth o effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys:

  • gollyngiadau i’r aer, tir a dŵr
  • effeithlonrwydd ynni
  • lleihau gwastraff
  • defnyddiaeth deunyddiau crai
  • sŵn, dirgryniadau a gwres
  • atal damweiniau

Mae trwyddedau Rhan B yn rheoli gweithgareddau sy’n achosi allyriadau i’r aer.

Mae’r drwydded mae ar eich busnes ei hangen yn dibynnu ar y prosesau penodol dan sylw a’r gollyngiadau canlyniadol.

Mae trwyddedau ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd neu’ch awdurdod lleol (y rheoleiddiwr) gan ddibynnu ar y categori mae’ch busnes ynddo:

  • Mae safleoedd neu offer symudol Rhan A(1) yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Mae safleoedd neu offer symudol Rhan A(2) a Rhan B yn cael eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol, ac eithrio gweithrediadau gwastraff a gyflawnir ar safleoedd Rhan B sy’n cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Mae gweithrediadau gwastraff neu offer symudol gwastraff a gyflawnir heblaw ar safle, neu gan offer symudol Rhan A neu Ran B, yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Mae gweithrediadau gwastraff mwyngloddio’n cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd

Amodau’r drwydded

Trwyddedu Amgylcheddol – Amodau’r Drwydded (PDF 13kb)

Ffioedd

  • £3318 am bob gweithgaredd Rhan A
  • Gweithgaredd Safonol - £1629
  • Offer symudol:
    • Cais cyntaf ac ail gais - £1629
    • Trydydd i seithfed cais - £972
    • Wythfed cais a rhai wedi hynny - £492
  • Gweithgareddau ffi ostyngol
    • Ailorffenwyr cerbydau - £355
    • Adfer Anwedd Petrol I a II ar y cyd - £252
    • Pob gweithgaredd ffi ostyngol arall - £152

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am drwydded ar lein.

Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol B

Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol A2

Hysbysiad ildio trwydded (Rhan B) (PDF)

Cais i ildio trwydded (Rhan A2) (PDF)

Proses gwerthuso cais

Bydd y rheoleiddiwr yn ystyried diogelu’r amgylchedd o’i ystyried yn gyfan trwy, yn benodol, atal gollyngiadau i’r aer, dŵr a thir neu, lle nad yw hynny’n ymarferol, eu lleihau.

Mae’n bosibl y bydd y rheoleiddiwr yn rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cais a rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau.

Rhaid i’r cais fod oddi wrth weithredwr y cyfleuster rheoleiddiedig a rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi’i fodloni fod yn rhaid iddo weithredu’r cyfleuster yn unol â’r drwydded amgylcheddol.

Cydsyniad mud

Mae er budd y cyhoedd bod yn rhaid inni brosesu’ch cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 14 diwrnod, dylech gysylltu â ni. 

Rhaid inni benderfynu ar geisiadau cyn pen 4 mis ar ôl i gais gael ei wneud.

Cysylltwch â ni