Hysbysiadau Deddf Trwyddedu 2003

Hysbysiad o Gais/Ceisiadau am Drwydded Safle neu Drwydded Safle Clwb 

Mae’r cais/ceisiadau a ganlyn wedi’i dderbyn gan yr Awdurdod Trwyddedu. Er mwyn gwneud sylwadau yn ymwneud â’r cais/ceisiadau dylech wneud hynny, yn ysgrifenedig i'r Adran Drwyddedu erbyn y dyddiad cau perthnasol.

Rhaid derbyn sylwadau o dan un neu’n fwy o’r pedwar amcan trwyddedu sef: 

  • atal trosedd ac anhrefn
  • diogelwch y cyhoedd
  • atal niwsans cyhoeddus
  • amddiffyn plant rhag niwed

Gallwch chi archwilio’r gofrestr neu gofnod o’r cais/ceisiadau trwy fynychu ein swyddfeydd yn Nhŷ Penallta rhwng 8.30am a 5pm Dydd Llun i Ddydd Iau a 8.30am a 4.30pm ar Ddydd Gwener.

Mae’n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu’n fyrbwyll mewn cysylltiad â chais a’r ddiryw uchaf y gallai’r person fod yn agored iddi ar gollfarn ddiannod am y drosedd yw dim mwy na £5,000.

Alexandre Menino de ouro Moreira Hancox

Cyfeiriad y Safle neu Adeilad y Clwb
Uned 3, Sir Alfred Owen Way, Ystâd Ddiwydiannol Pontygwindy, Caerffili CF83 3TH

Math o Gais
Trwydded eiddo newydd

Gweithgareddau Trwyddedadwy Arfaethedig neu Weithgareddau Clwb Cymwys
Darparu alcohol i'w yfed ar y safle o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 07:30-17:30, ar ddydd Sul, 08:00-16:00

Dyddiad Cau ar gyfer Sylwadau
4 Ebrill 2024

 

Rico Stores Limited

Cyfeiriad y Safle neu Adeilad y Clwb
One Stop Bargod 2 Hanbury Road Bargod CF81 8QR

Math o Gais
Trwydded eiddo newydd

Gweithgareddau Trwyddedadwy Arfaethedig neu Weithgareddau Clwb Cymwys
Cyflenwi alcohol i'w yfed oddi ar y safle o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 12:00 a 22:00

Dyddiad Cau ar gyfer Sylwadau
27 Mawrth 2024

 

Andrew Gutteridge

Cyfeiriad y Safle neu Adeilad y Clwb
The Llanarth, Llanarth Road,Pontllanfraith, Blackwood NP12 2LG

Math o Gais
Trwydded eiddo newydd

Gweithgareddau Trwyddedadwy Arfaethedig neu Weithgareddau Clwb Cymwys
Gwerthu alcohol o ddydd Llun i ddydd Iau 16:00–23:00, dydd Gwener a dydd Sadwrn 12:00–00:00, dydd Sul 12:00–22:00. Lluniaeth gyda'r hwyr o ddydd Llun i ddydd Iau 23:00–23:30, dydd Gwener a dydd Sadwrn 23:00–00:00. Cerddoriaeth fyw/wedi'i recordio ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn 18:00–00:00, dydd Sul 18:00–22:00.

Dyddiad Cau ar gyfer Sylwadau
27 Mawrth 2024

 

Cysylltwch â ni