Deddf Trwyddedu 2003

Sefydlodd Deddf Trwyddedu 2003 un system ar gyfer trwyddedu mangreoedd a ddefnyddir i werthu neu gyflenwi alcohol, darparu adloniant rheoledig neu luniaeth hwyr y nos.

Mae’r isod yn weithgareddau trwyddedadwy:

  • Adwerthu alcohol
  • Os ydych yn glwb cymhwysol, cyflenwi alcohol i aelod o’r clwb, neu werthu alcohol i westai aelod o’r clwb
  • Darparu adloniant rheoledig
  • Gwerthu lluniaeth hwyr y nos – gwerthu bwyd poeth neu ddiod rhwng 11pm a 5am i’w fwyta neu ei yfed yn y fangre neu i ffwrdd o’r fangre (gan gynnwys siopau bwyd i fynd ac arlwywyr symudol) oni foch yn westy, ffreutur staff neu faes pebyll.

Ni ellir cyflawni’r gweithgareddau trwyddedadwy hyn ond o dan, ac yn unol ag, un o’r canlynol:

Mae’r Ddeddf ei hun yn nodi amcanion trwyddedu allweddol y mae’n rhaid iddynt gael eu hyrwyddo gan y cyngor, fel yr awdurdod trwyddedu, wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan y system trwyddedu.

Yr amcanion trwyddedu yw:

  • Atal trosedd ac anhrefn;
  • Diogelwch y cyhoedd;
  • Atal niwsans cyhoeddus; ac
  • Amddiffyn plant rhag niwed

Rhaid i ddeiliaid trwydded, y cyngor ac asiantaethau eraill i gyd weithio gyda’i gilydd i hyrwyddo’r amcanion hyn. 

Mae Goruchwyliwr Mangre Dynodedig yn ofynnol ym mhob mangre lle cyflenwir alcohol o dan awdurdod trwydded mangre ac mae’n rhaid i’r unigolion hyn fod â thrwydded bersonol.

Datganiad o Bolisi Trwyddedu

Rydym wedi paratoi Datganiad o Bolisi Trwyddedu y mae’n rhaid iddo gael ei adolygu bob pum mlynedd neu’n gynt os bydd angen. Diben y polisi yw nodi’r dull gweithredu y bwriadwn ei ddilyn wrth benderfynu ar geisiadau a chyflawni ein dyletswyddau o ran rheoleiddio a gorfodi.

Gorfodi

Drwy gydol y flwyddyn, gall swyddogion yr awdurdod trwyddedu, ynghyd ag asiantaethau gorfodi eraill, gynnal archwiliadau ar sail risg a dirybudd o’r holl fangreoedd trwyddedig er mwyn sicrhau y cynhelir amodau’r drwydded a safonau diogel. Os oes gennych bryder ynghylch mangre drwyddedig, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni