Goruchwyliwr Mangre Dynodedig
Beth yw goruchwyliwr mangre dynodedig?
Prif ddiben y goruchwyliwr mangre dynodedig, fel y’i diffinnir yn y Ddeddf, yw sicrhau bod un unigolyn dynodedig bob amser, ymysg y deiliaid trwyddedau personol hyn, y gellir ei adnabod yn rhwydd ar gyfer y fangre lle mae trwydded bersonol mewn grym. Fel arfer, bydd deiliad y drwydded mangre wedi rhoi’r cyfrifoldeb am redeg y fangre o ddydd i ddydd i’r person hwnnw.
Trwy enwi’r goruchwyliwr mangre yn y drwydded mangre, bydd fel arfer yn glir pwy sydd â gofal dros y fangre o ddydd i ddydd, fel y gall swyddogion heddlu, swyddogion tân neu swyddogion yr awdurdod trwyddedu adnabod y goruchwyliwr mangre dynodedig ar unwaith fel person mewn swydd o awdurdod mewn unrhyw fangre sy’n gwerthu neu’n cyflenwi alcohol. Rhaid i unrhyw gais am drwydded mangre hefyd gynnwys ffurflen cydsyniad a roddir gan yr unigolyn y mae’r ymgeisydd eisiau iddo gael ei enwi yn y drwydded mangre fel y goruchwyliwr mangre dynodedig.
A oes yn rhaid i’r goruchwyliwr dynodedig fod yn y fangre bob amser pan fo alcohol yn cael ei werthu?
Nac oes, mewn rhai achosion ni fydd hyn yn ffisegol bosibl. Fodd bynnag, disgwylir i’r goruchwyliwr dynodedig dreulio cyfnodau sylweddol o amser yn y fangre. Yr hyn fydd yn hanfodol yw y gellir cysylltu â’r goruchwyliwr dynodedig, yn arbennig pe bai problemau’n codi gyda’r fangre.
Allaf i fod yn oruchwyliwr dynodedig mewn mwy nag un fangre ar yr un pryd?
Gallwch. Yr unig ofyniad ar gyfer bod yn oruchwyliwr mangre dynodedig yw bod yn rhaid i’r unigolyn dan sylw fod yn ddeiliad trwydded bersonol. Mae hyn yn sicrhau, lle bo’r gweithgareddau’n ymwneud â chyflenwi alcohol, fod yna berson yn gysylltiedig â’r fangre sydd â dealltwriaeth o faterion cymdeithasol o bwys a phroblemau posibl sy’n gysylltiedig â gwerthu alcohol.
All unrhyw un wrthwynebu person sydd wedi’i enwi’n oruchwyliwr mangre dynodedig?
Dim ond y prif swyddog heddlu fydd yn gallu cyflwyno sylwadau ynghylch enwi unrhyw oruchwyliwr mangre dynodedig os yw’n teimlo, o dan amgylchiadau eithriadol yr achos, y byddai ei enwi’n gallu tanseilio’r amcan atal trosedd. Gallai hyn gynnwys ofnau na fyddai’r goruchwyliwr dynodedig yn gallu cyflawni’r cyfrifoldebau mewn perthynas â’r amcan atal trosedd ar gyfer mwy nag un fangre ar yr un pryd. Lle bo’r prif swyddog heddlu’n cyflwyno sylwadau ynghylch y goruchwyliwr dynodedig, rhaid i’r awdurdod trwyddedu gynnal gwrandawiad i’w hystyried (oni fo’r holl bartïon yn cytuno nad yw hyn yn angenrheidiol). O ganlyniad i’r broses o ystyried y sylwadau, bydd yr awdurdod trwyddedu’n gwrthod enwi’r goruchwyliwr dynodedig os yw’n barnu bod angen gwneud hynny er mwyn hyrwyddo’r amcan atal trosedd.
Beth sy’n digwydd os yw’r goruchwyliwr mangre dynodedig yn gadael ei swydd, yn hysbysu’r awdurdod trwyddedu, ond nad yw’n dweud wrth ddeiliad y drwydded mangre?
Rhaid i’r goruchwyliwr dynodedig hysbysu’r awdurdod trwyddedu perthnasol os yw eisiau rhoi’r gorau i fod yn oruchwyliwr mangre dynodedig. Cyn pen 48 awr ar ôl hysbysu’r awdurdod trwyddedu, rhaid i’r unigolyn hefyd roi copi i ddeiliad y drwydded mangre o’r hysbysiad a anfonwyd at yr awdurdod trwyddedu. Rhaid i’r goruchwyliwr mangre dynodedig hefyd anfon hysbysiad yn cyfarwyddo’r deiliad trwydded i anfon y drwydded mangre at yr awdurdod trwyddedu perthnasol, neu os nad yw hynny’n ymarferol, datganiad o’r rhesymau dros beidio â darparu’r drwydded cyn pen 14 diwrnod ar ôl i’r hysbysiad ddod i law. Os bydd y deiliad yn peidio â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd, bydd yn cyflawni trosedd.