Trwydded sw
I redeg sw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae arnoch angen trwydded.
Meini prawf cymhwysedd
O leiaf dau fis cyn gwneud cais am drwydded, rhaid ichi roi inni hysbysiad ysgrifenedig (gan gynnwys yn electronig) o’ch bwriad i wneud y cais. Rhaid i’r hysbysiad nodi:
- lleoliad y sw
- y mathau o anifeiliaid a nifer fras pob grŵp a gedwir i’w arddangos yn y fangre a’r trefniadau ar gyfer eu llety, eu cynhaliaeth a’u lles
- nifer fras a chategorïau’r staff sydd i gael eu cyflogi yn y sw
- nifer fras yr ymwelwyr a’r cerbydau modur y mae lle i gael ei ddarparu iddynt
- nifer fras y mynedfeydd i’r fangre a’u lleoliadau
- sut y gweithredir y mesurau cadwraeth gofynnol yn y sw
O leiaf dau fis cyn gwneud y cais, rhaid ichi hefyd gyhoeddi hysbysiad o’r bwriad hwnnw mewn un papur newydd lleol ac un papur newydd cenedlaethol, ac arddangos copi o’r hysbysiad hwnnw. Rhaid i’r hysbysiad nodi lleoliad y sw a dweud bod yr hysbysiad o gais i’r awdurdod lleol ar gael i’w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod lleol.
Ffioedd
Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau
Sut i wneud cais
Erbyn hyn, gallwch wneud cais ar lein.
Anfon hysbysiad o’ch bwriad i weithredu sw
Gwneud cais am drwydded i weithredu sw
Dweud wrthym am newid i’ch trwydded sw bresennol
Hysbysiadau preifatrwydd - Ceisiadau am drwyddedau/cofrestriadau a roddwyd mewn perthynas â chadw anifeiliaid (PDF)
Y broses gwerthuso cais
Wrth inni ystyried cais, byddwn yn cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan neu ar ran:
- yr ymgeisydd
- y prif swyddog heddlu (neu yn yr Alban, y prif gwnstabl) yn yr ardal berthnasol
- yr awdurdod priodol – naill ai’r awdurdod gorfodi neu’r awdurdod perthnasol ar gyfer yr ardal lle bydd y sw yn cael ei leoli
- corff llywodraethol unrhyw sefydliad cenedlaethol sy’n ymwneud â gweithredu sŵau
- yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal lle bydd y sw yn cael ei leoli
- unrhyw berson sy’n honni y byddai’r sw yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy’n byw yn y gymdogaeth
- unrhyw un sy’n dweud y byddai’r sw yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch unrhyw un sy’n byw yn agos ato
- unrhyw berson arall y gallai ei sylwadau ddangos sail y mae gan yr awdurdod bŵer neu ddyletswydd arni i wrthod rhoi trwydded
Cyn rhoi neu wrthod rhoi’r drwydded, byddwn yn ystyried unrhyw adroddiadau gan archwilwyr wedi’u seilio ar ein harchwiliad o’r sw, yn ymgynghori â chi ynghylch unrhyw amodau yr ydych yn cynnig y dylid eu hatodi i’r drwydded ac yn gwneud trefniadau i archwiliad gael ei gynnal. Rhoddir o leiaf 28 diwrnod o rybudd o’r archwiliad.
Ni fyddwn yn rhoi’r drwydded os teimlwn y byddai’r sw yn cael effaith niweidiol ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy’n byw yn agos ato, neu’n cael effaith ddifrifol ar gynnal cyfraith a threfn, neu os nad ydynt wedi’u bodloni y byddai’r mesurau cadwraeth priodol yn cael eu gweithredu’n foddhaol.
Hefyd mae’n bosibl y bydd cais yn cael ei wrthod:
- os nad ydym wedi’n bodloni bod y safonau lletya, staffio neu reoli’n addas ar gyfer gofal a lles priodol yr anifeiliaid neu ar gyfer gweithredu’r sw mewn modd priodol
- os ydych chi, neu os ydych yn gwmni corfforedig, os yw’r cwmni neu unrhyw un o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion tebyg eraill y cwmni, neu geidwad yn y sw, wedi cael euogfarn o unrhyw drosedd yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid
Mae’n bosibl y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl ymgynghori â ni, yn ein cyfarwyddo i atodi amod neu amodau i drwydded.
Mae’n bosibl y byddwn yn cynghori’r Ysgrifennydd Gwladol, oherwydd nifer fach yr anifeiliaid a gedwir yn y sw neu nifer fach y mathau o anifeiliaid a gedwir yno, y dylid gwneud cyfarwyddyd nad yw trwydded yn ofynnol.
Cydsyniad mud
Mae er budd y cyhoedd bod yn rhaid inni brosesu’ch cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 28 diwrnod dylech gysylltu â’r awdurdod hwn cyn gynted ag sy’n bosibl.