Trwydded sefydliad marchogaeth

Mae arnoch angen trwydded i redeg sefydliad marchogaeth (lle caiff ceffylau neu ferlod eu llogi at ddibenion marchogaeth neu eu defnyddio at ddibenion hyfforddiant marchogaeth) yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

Meini prawf cymhwysedd

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed. Yng Nghymru a Lloegr, rhaid iddynt beidio â bod wedi’u hanghymhwyso:

  • rhag cadw sefydliad marchogaeth
  • rhag cadw siop anifeiliaid anwes o dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • rhag bod â gwarchodaeth dros anifeiliaid o dan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1954
  • rhag cadw sefydliadau lletya i anifeiliaid o dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
  • o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 rhag cadw neu fod yn berchen ar anifeiliaid, gallu dylanwadu ar y ffordd y cedwir anifeiliaid, masnachu mewn anifeiliaid neu gludo neu ymwneud â chludo anifeiliaid
  • rhag bod yn berchen ar anifeiliaid, cadw anifeiliaid, masnachu mewn anifeiliaid neu gludo anifeiliaid o dan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (Yr Alban) 2006

Ffioedd

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau

Sut i wneud cais

Erbyn hyn, gallwch wneud cais ar lein.

Gwneud cais am drwydded i weithredu sefydliad marchogaeth

Dweud wrthym am newid

Hysbysiadau preifatrwydd - Ceisiadau am drwyddedau/cofrestriadau a roddwyd mewn perthynas â chadw anifeiliaid (PDF)

Y broses gwerthuso cais

Cyn penderfynu ar gais rhaid inni ystyried adroddiad oddi wrth filfeddyg neu ymarferydd milfeddygol sy’n nodi a yw’r fangre’n addas ar gyfer sefydliad marchogaeth ac yn rhoi manylion cyflwr y fangre ac unrhyw geffylau.

Byddwn hefyd yn cymryd i ystyriaeth a yw’r ymgeisydd yn addas ac yn gymwys i ddal trwydded. Rhaid inni hefyd fod wedi’n bodloni:

  • y rhoddir ystyriaeth i gyflwr y ceffylau ac y cânt eu cadw mewn iechyd da a’u cadw’n iach yn gorfforol, a lle caiff y ceffyl ei farchogaeth neu ei ddefnyddio yn ystod hyfforddiant marchogaeth, ei fod yn addas at y diben hwnnw.
  • y caiff traed yr anifeiliaid eu trimio’n gywir, a bod pedolau’n cael eu ffitio’n gywir a’u bod mewn cyflwr da
  • y bydd llety addas i’r ceffylau
  • ar gyfer ceffylau sy’n cael eu cadw ar laswellt, bod porfa, cysgodfa a chyflenwad dŵr addas ac y darperir porthiant ategol yn ôl yr angen
  • y darperir i’r ceffylau fwyd, diod a gwasarn addas ac y cânt eu hymarfer, eu gwastrodi a’u gorffwys, ac yr ymwelir â hwy o fewn ysbeidiau addas
  • y caiff rhagofalon eu cymryd i leihau lledaeniad clefydau ymledol neu heintus ac y caiff cyfarpar cymorth cyntaf a meddyginiaethau milfeddygol eu darparu a’u cynnal a’u cadw
  • bod gweithdrefnau priodol ar waith i ddiogelu’r ceffylau a’u symud ymaith os digwydd tân, ac fel rhan o hyn, y caiff enw, cyfeiriad a rhif ffôn deiliad y drwydded eu harddangos y tu allan i’r fangre, ynghyd â chyfarwyddiadau tân
  • y darperir cyfleusterau storio ar gyfer porthiant, gwasarn, cyfarpar stabl a harneisiau
    • Yn ogystal ag unrhyw amodau eraill, rhaid i drwydded sefydliad marchogaeth fod yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
  • na fydd unrhyw geffyl sy’n cael ei archwilio gan swyddog awdurdodedig ac y canfyddir fod arno angen sylw gan filfeddyg yn mynd yn ôl i’r gwaith nes y bydd deiliad y drwydded wedi cael tystysgrif filfeddygol yn cadarnhau bod y ceffyl yn ffit i weithio
  • na chaiff ceffyl ei logi neu ei ddefnyddio at ddibenion hyfforddiant heb oruchwyliaeth gan berson cyfrifol 16 oed neu hŷn, oni fo deiliad y drwydded wedi’i fodloni nad oes angen goruchwyliaeth ar y marchogwr
  • na chaiff y busnes ei adael dan ofal rhywun iau nag 16 oed
  • bod gan y deiliad trwydded yswiriant indemniad
  • bod y deiliad trwydded yn cadw cofrestr o’r holl geffylau yn ei feddiant sy’n dair blwydd oed neu iau a bod y gofrestr ar gael i’w harchwilio ar bob adeg resymol

Cydsyniad mud

Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 28 diwrnod gallwch weithredu fel pe bai’ch cais wedi cael ei gymeradwyo. Mae’r cyfnod yn dechrau pan ddaw’r holl ddogfennau i law a phan gaiff y ffi berthnasol ei thalu.

Cysylltwch â ni