Ty Du, Nelson - Unedau busnes newydd

Mae Safle Strategol Tŷ Du wedi'i leoli o fewn ffiniau'r anheddiad Nelson, Caerffili, ac mae'n union i'r de o Ffordd Osgoi Nelson, yr A472. Mae cyllid sylweddol wedi'i sicrhau ar gyfer llwyfandir 19 hectar gan y sector cyhoeddus a'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer uwchgynllun datblygu defnydd cymysg cynaliadwy, gan gynnwys priffyrdd a seilwaith mynediad newydd, darpariaeth ar gyfer 200 o gartrefi a 3.8 hectar o dir wedi'i ddynodi ar gyfer arwynebedd llawr o ansawdd ar gyfer adeiladau cyflogaeth.
Cwblhawyd cam cyntaf y gwaith datblygu, gan gynnwys y gwaith hanfodol o ran paratoi'r safle ac adeiladu seilwaith priffyrdd er mwyn hwyluso gweddill y gwaith, yn 2019.
Bydd cam nesaf datblygiad Tŷ Du yn canolbwyntio ar “Ardal Fasnachol” y safle, ac mae disgwyl iddo gychwyn yn ddiweddarach eleni. Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a bydd yn datblygu oddeutu 1 hectar o dir yng nghornel dde-orllewinol y safle. Bydd y cam hwn o'r gwaith yn dod ag adeiladau cyflogaeth newydd o ansawdd i Nelson, gan helpu i gefnogi'r economi leol ar adeg hanfodol bwysig.
Fel rhan o'r cynllun, bydd hyd at 4 adeilad o ansawdd uchel yn cael eu hadeiladu ac yn cynnwys cyfanswm o 1,300 metr sgwâr o arwynebedd llawr. Mae gan bob adeilad y potensial i gael ei isrannu'n 2–3 uned lai ac fe'u dyluniwyd â ffasâd allanol o ansawdd uchel, gyda chynllun mewnol hyblyg i weddu i ystod o ddefnyddiau busnes. Mae cynllun arfaethedig y safle yn cynnwys ardal weithredol helaeth, mannau parcio ceir a beiciau, seddi allanol ac ardaloedd ymlacio i gyd o fewn lleoliad wedi'i dirlunio ar ffurf “cwrt” sy'n cynnwys coed a pherthi newydd.
Gweld y cynlluniau
Y cynigion (PDF)
Llyfryn (PDF)
Cael golwg Cysylltwch â’r asiantau penodedig Knight Frank
Neil Francis T. 02920 440147 M. 07766 511983 E. neil.francis@knightfrank.com
Tom Griffiths T. 02920 440140 M. 07870 861 077 E. tom.griffiths@knightfrank.com
Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru gyda buddsoddiad ychwanegol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru.