Uned 4, Llys Oakdale, Parc Busnes Oakdale

Cyfeiriad a Lleoliad: Uned 4, Llys Oakdale, Parc Busnes Oakdale, Oakdale, NP12 4AD
Maint: 12,715 troedfedd sgwâr
Y pris gofyn: £4.25 y troedfedd sgwâr y flwyddyn = £54,000 y flwyddyn
Bond: Yn cyfwerth â dau fis rhent
Gwerth Ardrethol: TBC
Ymholiadau: Cysylltwch â Michael Williams ar 01443 864142
Ceisiadau: Cwblhewch a dychwelyd y profforma atodedig. Ar ôl ei dderbyn, cewch wybod am gyfle i weld yr eiddo. Gofynnir i chi hefyd gyflwyno cynllun busnes/crynodeb gweithredol a thystiolaeth o sefyllfa ariannol eich busnes.
Graddfa Amser: Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16/12/22 a bydd y Cyngor yn ymdrechu i gwblhau'r broses ymgeisio o fewn dau fis i'r dyddiad cau.
Y meini prawf allweddol a'r broses benderfynu: Bydd yr holl geisiadau yn cael eu hystyried gan y Rheolwr Cefnogi Busnes a Chyllid, uwch gynrychiolwyr o Dimau Cyllid ac Eiddo Corfforaethol y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros yr Economi, Isadeiledd, Cynaliadwyedd a Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda'r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Pennaeth Adfywio a Chynllunio.
Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:
Statws y Busnes:
- Busnes sy’n ehangu gyda thwf swyddi (Sgôr 5)
- Busnes Cychwyn (Sgôr 4)
- Busnes mewnfuddsoddi presennol (Sgôr 3)
- Busnes presennol sy'n symud i gyfuno (Sgôr 2)
- Busnes sy’n lleihau (Sgôr 1)
Nifer y swyddi:
- 20+ cyflogai (Sgôr 5)
- 6 - 20 cyflogai (Sgôr 4)
- 3 - 5 cyflogai (Sgôr 3)
- 2 gyflogai (Sgôr 2)
- 1 (perchennog gweithredwr) (Sgôr 1)
Potensial am dwf - swyddi a grëir
- 20+ swydd newydd (Sgôr 5)
- 6 - 20 cyflogai (Sgôr 4)
- 3 - 5 cyflogai (Sgôr 3)
- 1 - 2 gyflogai (Sgôr 2)
- Ni ragwelir twf (Sgôr 1)
Cysylltiadau â'r economi leol
- Yn cydweithio â chyflogwr lleol arall (Sgôr 5)
- Yn ategu llawer o gyflogwyr lleol ar sail ad hoc (Sgôr 4)
- Yn cydweithio â masnachau lleol (Sgôr 3)
- Yn gweithio i drigolion/manwerthu lleol (Sgôr 2)
- Dim cysylltiadau â'r economi leol (Sgôr 1)
Dylech hefyd nodi y gall penderfyniad terfynol ddibynnu ar:
- y lefelau sŵn disgwyliedig a gynhyrchir gan eich busnes
- eich oriau gweithredu arferol
- nifer y symudiadau cerbydau
- rheoli allyriadau a gwastraff
- unrhyw addasiadau neu newidiadau i'r uned y bydd eu hangen arnoch.
Er na fyddai unrhyw un o'r uchod o reidrwydd yn eich rhwystro rhag sicrhau tenantiaeth, efallai y bydd angen i chi ofyn am gyngor gan dimau eraill y Cyngor cyn symud ymlaen.
Dylech hefyd ystyried cynnwys y Cytundeb Tenantiaeth/Prydles/Drwydded drafft (PDF).
Sylwer na fydd y Cyngor yn ystyried unrhyw newidiad sylweddol i'r ddogfen hon oni bai fod amgylchiadau eithriadol. Dylech nodi y bydd tâl o £250 ar gyfer llunio'r ddogfen.
<< Gweld eiddo arall sydd ar gael