Cyflwyno cais i brynu, prydlesu neu ddefnyddio tir/adeilad sy'n eiddo i'r Cyngor

Stay Connected

Gallwch nawr gofrestru am hysbysiadau e-bost. Rydym hefyd yn cynnig tanysgrifiadau i wasanaethau a newyddion arall y cyngor.

Os hoffech weld y portffolio sydd ar gael gan y Cyngor ewch i'r dudalen argaeledd eiddo.

Os oes darn o dir neu adeilad (“eiddo”) yr hoffech ei brynu, ei brydlesu neu fod angen mynediad iddo, cwblhewch ein ffurflen gais ar-lein. Bydd gofyn i chi i lanlwytho cynllun.

Nid ydym o dan unrhyw rwymedigaeth i werthu eiddo yr ydych yn gofyn i’w brynu. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn ystyried cais oni bai ei fod yn cwrdd ag un o'r meini prawf canlynol:Mae yna ddarnau o dir a all ymddangos yn wag a heb eu defnyddio ond sydd mewn gwirionedd yn cael eu dal am resymau strategol (er enghraifft, gwella priffyrdd neu ddatblygiad tai/masnachol yn y dyfodol).

  • Mae'n annhebygol y byddem yn gallu gwerthu safleoedd o bwysigrwydd strategol
  • Mae gan rai eiddo gyfamodau neu gyfyngiadau teitl eraill, a gallai hyn olygu na allwn ystyried gwarediad.
  • Mae peth tir sydd gennym yn cael ei ddal o fewn ymddiriedolaeth.
  • Mae'n llai tebygol y gallem werthu safleoedd sy'n cael eu dal o fewn ymddiriedolaeth.
  • Os datgenir bod yr ardal yn dir dros ben ac o bosibl o ddiddordeb i bartïon eraill, efallai y bydd angen i ni hysbysebu'r ardal a gwahodd cynigion gan unrhyw / bob parti.

Costau

Pan fyddwch yn cyflwyno cais, dylech gofio y bydd nifer o gostau y byddech yn gyfrifol amdanynt yn ychwanegol at bris prynu neu gostau rhentu blynyddol os bydd eich cais yn llwyddiannus:

  • Os yw'r ardal yn fan agored cyhoeddus, bydd angen i ni hysbysebu'r bwriad i werthu neu brydlesu yn y wasg leol am 2 wythnos yn olynol (ar hyn o bryd bydd cyfraniad na ellir ei ad-dalu gwerth £650 i'w wneud cyn cyflwyno'r hysbyseb). Os derbynnir gwrthwynebiadau, byddai'r rhain yn cael eu hystyried yn ôl eu rhinweddau, cyn gwneud penderfyniad i werthu/brydlesu.
  • Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio i newid defnydd (y ffi ymgeisio ar hyn o bryd yw £380). Byddai unrhyw gais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau gan yr adran gynllunio, efallai yr hoffech gysylltu â'n hadran gynllunio o flaen llaw cyn cyflwyno cais.
  • Efallai y bydd angen cyfreithiwr arnoch chi'ch hun a fydd yn arwain at gostau ychwanegol.

Beth sy’n digwydd unwaith byddaf wedi cwblhau’r ffurflen?

Ar ôl i chi anfon eich ffurflen gais ar ôl atodi'r holl wybodaeth sy'n ofynnol,  byddwn yn gwirio mai ni sy'n berchen ar y tir.

Ar yr adeg hon, bydd ymgynghoriad anffurfiol yn dechrau i benderfynu a ydym am gael gwared ar yr eiddo ai peidio. Bydd y penderfyniad hwn yn seiliedig ar nifer o ffactorau a byddwn yn eich cynghori yn ysgrifenedig o'r canlyniad.

Os nad ydym am waredu'r eiddo byddwn yn dweud pam wrthych; os ydym yn barod i gael gwared ar yr eiddo byddwn yn cychwyn ar y broses ymgynghori ffurfiol  i sicrhau nad oes unrhyw resymau pam na all y gwarediad ddigwydd.

Beth sy’n digwydd os gwrthodir fy nghais? 

Os ydym yn gwrthod eich cais, byddwn yn eich hysbysu yn ysgrifenedig. 

A oes proses apelio?

Nac oes, ond os ydych chi'n teimlo bod gennych chi wybodaeth ychwanegol, neu gyfiawnhad i gefnogi'ch cais nad yw wedi cael ei ystyried eisoes, neu os ydych chi'n newid eich cais mewn rhyw ffordd, efallai y byddwn ni'n gallu prosesu'ch cais eto, yn seiliedig ar y wybodaeth newydd.

Ymgynghoriad

Gall yr ymgynghoriad  gynnwys unrhyw un neu’r holl bethau canlynol:

  • Gwasanaethau'r Cyngor
  • Cynghorwyr Lleol
  • Treth y Cyngor a Chyllid
  • Cyngor Cymunedol/Tref
  • Yr Awdurdod Cynllunio (i benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd)
  • Perchnogion tir cyffiniol
  • Trigolion
  • Unrhyw bartïon eraill sydd â diddordeb
  • Y Gyfraith

Gall y broses ymgynghori gymryd hyd at 16 wythnos.  Gall achosion mwy cymhleth arwain at gyfnod ymgynghori hirach. Byddwn yn eich diweddaru ac yn rhoi gwybod ichi a oes angen unrhyw dystiolaeth bellach wrthych.

Man Agored Cyhoeddus

Os ystyrir bod y tir yn Fan Agored Cyhoeddus, rhaid i ni hysbysebu'r bwriad i werthu neu brydlesu yn y wasg leol am 2 wythnos yn olynol (bydd angen i chi wneud cyfraniad na ellir ei ad-dalu i'r gost cyn i ni osod yr hysbyseb).

Os oes gwrthwynebiadau dilys i'r hysbyseb man agored, byddwn yn ystyried rhoi gwybod i'r Cabinet am y mater am benderfyniad.

Marchnata

Os datgenir bod eiddo yn warged ac o bosibl o ddiddordeb i bartïon eraill, efallai y bydd angen i ni ei hysbysebu a gwahodd cynigion cystadleuol trwy hysbysebu ar ein gwefan.

Byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn gofyn ichi gyflwyno'ch cynnig gorau a therfynol ynghyd ag unrhyw bartïon eraill sydd â diddordeb.

Cymeradwyaeth mewn egwyddor

Ar yr amod na chodir unrhyw wrthwynebiadau yn unrhyw un o'r pwyntiau a restrir uchod, byddwn yn paratoi adroddiad “mewn egwyddor” ar gyfer penderfyniad.

Prisiad

Ar ôl y gymeradwyaeth honno gael ei rhoi, bydd angen prisiad o'r tir arnom. Ar ôl i'r prisiad gael ei gwblhau byddwn yn cysylltu â chi i gytuno ar delerau ar gyfer y gwarediad ac yn anfon Penawdau'r Telerau atoch.

Os ydych yn dymuno bwrw ymlaen, bydd angen i chi gytuno yn ysgrifenedig.

Cymeradwyo telerau

Os cytunir ar delerau ac ni chafodd unrhyw wrthwynebiadau eu codi, byddwn yn paratoi adroddiad “cymeradwyo telerau” ar gyfer penderfyniad.

Cynllunio

Os oes angen caniatâd cynllunio  arnoch, ar ôl ymgynghori â'n Cynllunwyr, ar gyfer newid defnydd, dylech sicrhau ei fod mewn lle cyn eich bod wedi ymrwymo'n gyfreithiol i'r trafodion (cyfnewid contractau neu lofnodi prydles)

Cyfarwyddo cyfreithiol

Unwaith y bydd cymeradwyaeth wedi'i rhoi, byddwn yn dweud wrth ein cyfreithwyr. Dylech hefyd ddweud wrth eich cyfreithiwr.

Mae hyn i gyd yn ymddangos yn gymhleth iawn a bydd yn cymryd amser hir Onid oes ffordd haws?

Yn anffodus nac oes. Mae gan y Cyngor rwymedigaethau cyfreithiol wrth werthu tir ac eiddo a thrafodion tir eraill.

Mae'r ddogfen hon yn egluro llawer o bethau a fydd efallai’n gorfod digwydd cyn y gellir gwneud penderfyniad ond cofiwch efallai na fyddant i gyd yn berthnasol i'ch cais penodol, ac efallai y bydd materion eraill yn cael eu dwyn i'r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad.

Ni fydd hyn yn dod i'r amlwg nes bod pob cam yn cael ei gyflawni, felly ar y dechrau nid yw'n bosibl rhagweld yr amser y bydd yn ei gymryd i ddod i benderfyniad.

Ceisio ar-lein >

Please note, this form will not work from within Internet Explorer. Please use a more modern browser such as Edge, Chrome or Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Cysylltwch â ni