Gwastraff masnachol - contractau
Gofyn am gontract
Mae gan bob safle masnachol ddyletswydd gofal i reoli a gwaredu eu gwastraff nhw.
Gall methu â chydymffurfio arwain at gamau cyfreithiol gyda'r cosbau mwyaf canlynol:
- Yn Llys yr Ynadon – dirwy nid yn fwy na £5,000 ar gyfer pob trosedd.
- Yn Llys y Goron – dirwy ddiderfyn.
- Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 ar gyfer pob trosedd.
Gwnewch gais nawr
Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio
- Gwnewch gais ar-lein a dewis y biniau a'r math o wastraff y mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw.
- Mae pob casgliad yn wythnosol, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
- Mae'r gwasanaeth casglu rhwng 5.30am a 1.30pm. Gwnewch yn siŵr bod eich bin/biniau ar gael i'w casglu.
- Bydd aelod o'r tîm gwastraff yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod i drafod eich gofynion chi.
- Mae anfonebau'n cael eu hanfon ddwywaith y flwyddyn (mis Ebrill a mis Hydref).
- Gallwch chi wneud taliadau misol trwy ddebyd uniongyrchol ar gais.
- Mae ffi flynyddol o £40 am y Ddyletswydd Gofal.
- Bydd biniau ailgylchu halogedig yn cael eu gadael a bydd tâl i'r busnes.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Ailgylchu@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866533.
Terfynu contract gwastraff masnachol
I derfynu contract gwastraff masnachol, mae’n rhaid i chi:
- rhoi o leiaf 1 mis o rybudd.
Terfynu Nawr
Fel arall, gallwch chi e-bostio Ailgylchu@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866533.