Gwastraff masnachol - peryglus
Rhaid i bob busnes ddangos bod gwastraff peryglus yn cael ei waredu'n gywir gan sicrhau bod mesurau ar waith i wahanu, trin a storio gwastraff o'r fath yn gywir.
Mae'n anghyfreithlon cymysgu gwahanol fathau o ddeunyddiau gwastraff peryglus neu eu cymysgu nhw â gwastraff nad yw'n beryglus.
Bydd methu â chydymffurfio yn arwain at achos cyfreithiol.
I gael cyngor ar sut i drin asbestos, ffoniwch:
- Llinell Gymorth Asbestos Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch – 0845 345 0055
- Llinell Gymorth Asiantaeth yr Amgylchedd – 0870 850 6506
- Llinell Gymorth Cyfoeth Naturiol Cymru – 0300 065 3000
Mae'r Ddyletswydd Gofal yn cael ei gosod yn drymach ar fusnesau, fel cynhyrchwyr gwastraff. Os yw eich busnes chi’n cynhyrchu gwastraff peryglus, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Os nad ydych chi wedi cofrestru, ni fydd yn bosib i wastraff peryglus gael ei gasglu oddi wrth eich safle.
Mathau o wastraff peryglus
Mae gwastraff peryglus yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Asbestos
- Hidlyddion Olew
- Gwrthrewydd
- Hylif Brêc
- Olew Iro
- Tanwyddau cymysg
- Batris asid plwm
- Hylifau golchi darnau
- Clytiau a gronynnau halogedig
- Tiwbiau fflworoleuol
- Gwastraff argraffu
- Paent
- Gweddillion Olew
- Gwastraff Toddyddion, gan gynnwys pecynnu a chynwysyddion halogedig
- Rhai Nwyddau Trydanol
- Sgriniau Tiwb Pelydr Catod (setiau teledu a monitorau cyfrifiaduron)
- Deunyddiau gwastraff eraill wedi'u dosbarthu'n flaenorol fel 'Gwastraff Arbennig'
Rhaid i chi sicrhau bod gan y cwmni rydych chi'n ei ddewis i waredu eich gwastraff peryglus drwydded. Mae'n drosedd trosglwyddo gwastraff i gwmni nad yw wedi'i gymeradwyo gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi wastraff peryglus, ond ddim yn siŵr, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru