Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022-23

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r manylion am gynllun rhyddhad ardrethi dros dro newydd y bydd eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch yn elwa ohono o fis Ebrill 2022. Mae'r cynllun ar gyfer 2022/23 yn cynnig 50% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo cymwys sydd wedi'u meddiannu, ond £110,000 yw'r uchafswm y gall pob busnes wneud cais amdano ar draws yr holl eiddo sy'n cael eu defnyddio gan yr un busnes yng Nghymru.

I gael rhagor o fanylion, darllenwch Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2022-23 | Busnes Cymru (gov.wales).

Rhaid i bob busnes cymwys lenwi ffurflen datganiad ar-lein. Nod y Tîm Ardrethi Busnes yw prosesu ffurflenni datganiad a chyhoeddi biliau diwygiedig lle bo'n briodol cyn gynted â phosibl.

GWNEUD CAIS NAWR
TSylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at y Tîm Ardrethi Busnes TrethiAnnomestig@caerffili.gov.uk.

Pwysig: Dylai trethdalwyr gysylltu â ni'n uniongyrchol ynglŷn â'r rhyddhad cyfradd uchod; nid fydd angen i chi ddefnyddio asiantwyr ardrethu i weithredu ar eich rhan.