Cronfa Budd Cymunedol Oakdale

Pwrpas Cronfa Budd Cymunedol Oakdale yw cefnogi cymunedau hyfyw a chynaliadwy yn ardal Oakdale, a bod o fudd iddyn nhw. Bydd y gronfa hon yn galluogi sefydliadau cymunedol/gwirfoddol, Cynghorau Cymuned ac ysgolion yn ardal Oakdale i wneud cais am gyllid i symud ymlaen â phrosiectau y maen nhw wedi'u datblygu sy'n cefnogi'r nodau isod.

Bydd angen i sefydliadau sy'n ceisio cymorth ddangos:

  • bydd y prosiect yn cael effaith gymdeithasol, economaidd, ddiwylliannol neu amgylcheddol ar yr ardal neu gymuned dan sylw;
  • bod y prosiect yn dangos yn glir ei fod yn ymateb i anghenion sydd wedi'u nodi gan gymuned yn ardal Oakdale, p'un a yw hynny'n gymuned ddaearyddol neu'n gymuned o ddiddordeb; a
  • bydd y prosiect yn cael ei reoli gan sefydliad gwirfoddol/cymunedol, Cyngor Cymuned neu ysgol yn ardal Oakdale.

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Sefydliadau gwirfoddol/cymunedol a'u partneriaethau sydd â chyfansoddiad wedi'i lofnodi a'u cyfrif banc eu hunain yng nghymunedau Argoed, Croespenmaen, Kendon, Oakdale, Penmaen, Pen-twyn a Thrinant, Crymlyn, Aberbargod, Markham a Choed Duon.

Sut i wneud cais

Trwy lenwi'r ffurflen gais sydd ar gael gan y Tîm Adnewyddu Menter Fusnes, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF, ffonio 01443 866220 neu e-bostio jenkis6@caerffili.gov.uk.

Beth yw lefel y grant sydd ar gael?

Uchafswm y grant sydd ar gael yw 80% o gyfanswm costau'r prosiect, hyd at £3,000. Ni fydd unrhyw brosiect yn cael llythyr cynnig ffurfiol nes bydd y pecyn cyllido llawn yn ei le. Rhaid gwario'r holl gyllid erbyn 31 Mawrth yn ystod y flwyddyn ariannol pan gafodd y cyllid ei ddyfarnu.

Pa mor aml y mae ceisiadau grant yn cael eu hystyried?

Bydd ceisiadau grant cyflawn yn cael eu sgorio yn erbyn meini prawf ac yn cael eu gwerthuso gan Banel Grantiau sy'n cynnwys Swyddogion, Aelodau'r Cyngor a chynrychiolydd o'r Sector Gwirfoddol.

Mae ceisiadau'n cael eu hasesu'n barhaus gan y panel ac mae dyfarnu'r grant yn hollol yn ôl disgresiwn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.

  • bydd y prosiect yn cael effaith gymdeithasol, economaidd, ddiwylliannol neu amgylcheddol ar yr ardal neu gymuned dan sylw;
  • bod y prosiect yn dangos yn glir ei fod yn ymateb i anghenion sydd wedi'u nodi gan gymuned yn ardal Oakdale, p'un a yw hynny'n gymuned ddaearyddol neu'n gymuned o ddiddordeb; a
  • bydd y prosiect yn cael ei reoli gan sefydliad gwirfoddol/cymunedol, Cyngor Cymuned neu ysgol yn ardal Oakdale.
Cysylltwch â ni