Dewis Rhisga

A hithau'n sefyll ym mhrydferthwch Cwm Ebwy, yn ne-ddwyrain y Fwrdeistref Sirol, mae Rhisga yn dref boblogaidd wedi'i hamgylchynu gan fryniau coediog serth, wedi'i ffinio gan Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar un ochr ac Afon Ebwy ar yr ochr arall.

Mae'r dref yn elwa ar ei lleoliad gwych, gan gymryd dim ond 10 munud i gyrraedd yr M4 neu 45 munud i gyrraedd Maes Awyr Caerdydd mewn car ac, yn dilyn ailagor rheilffordd Cwm Ebwy yn 2008, gall cymudwyr ac ymwelwyr fanteisio ar wasanaeth rheolaidd i Gasnewydd, Caerdydd a thu hwnt. Mae llwybrau bysiau lleol yn cynnig trafnidiaeth i'r trefi cyfagos, sef Coed Duon, Trecelyn ac Abertyleri, ac mae sawl maes parcio ar gael.

Ewch i'n hadran drafnidiaeth a pharcio sy'n cynnwys gwybodaeth am fysiau a thacsis a manylion am y meysydd parcio sydd ar gael yng Rhisga.

Mae manwerthu annibynnol wrth wraidd stryd fawr Rhisga gydag amrywiaeth dda o fusnesau newydd a sefydledig, gan gynnig rhywbeth at ddant a chyllideb pawb. Cigyddion, harddwch, tai bwyta, gwaith atgyweirio – mae gan y stryd fawr gyfeillgar hon deimlad tref farchnad, ynghyd ag amrywiaeth o archfarchnadoedd. 

Mae'r stryd fawr ar gyrion prydferthwch Parc Tiroedd Tredegar, sy'n darparu man chwarae i blant a safle pwrpasol sy'n cynnal digwyddiadau cymunedol lleol fel Parti Traeth Rhisga a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni. Yn ogystal, mae gan y gymuned gôr meibion sydd wedi ennill sawl gwobr, amgueddfa, clwb rygbi amlwg, a chanolfan hamdden sydd â phwll nofio ac ystafell ffitrwydd fodern. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae hen Sinema'r Palas wedi'i hailwampio'n llwyr ac wedi'i hailgyflunio, gan gadw ffasâd hanesyddol hardd y sinema wreiddiol ac mae hi bellach yn cynnwys llyfrgell gyda chyfleuster Cwsmeriaid yn Gyntaf.

Mae'r manylion am raglen ddigwyddiadau'r Cyngor ar gael ar wefan Croeso Caerffili.

Beyond the high street, Cwmcarn Forest attracts those with a taste for the outdoors. Activities such as mountain biking, hiking and paddle boarding can be enjoyed by the thrill seekers whilst breath taking views can be admired along the Cwmcarn forest drive at a more relaxed pace.

Cafodd Wi-Fi am ddim ei gyflwyno ledled canol y dref yn ddiweddar, ac mae ymwelwyr yn gallu cysylltu trwy'r rhwydwaith ‘FreeCCBCWifi’.   Mae cyllid hefyd wedi’i sicrhau ar gyfer Rhisga fel rhan o Grant Creu Lleoedd rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei ddyrannu tuag at wneud gwelliannau i fannau cyhoeddus yn y dref.

Ap Tref Glyfar - Dyddiad lansio 8 Mehefin 2023

Mae Rhisga yn dref smart. Lawrlwythwch yr ap ‘VZTA Smart Towns’ i archwilio Rhisga yn eich llaw a darganfod beth sydd ar gael yn y dref! Siopa, gwybodaeth am fusnesau a chynnyrch, dod o hyd i'r anrheg berffaith neu le i fwyta, atyniadau i'w gweld a lleoedd i ymweld â nhw – mae ‘VZTA’ yn dod â Rhisga at ei gilydd, ac yn ei gwneud hi'n gyflym a hawdd i chi ei darganfod a'i harchwilio.

Lawrlwytho VZTA

Tîm Rheoli Canol Trefi

Os hoffech chi drafod cyfleoedd busnes yng Nghanol Tref Rhisga, cysylltwch â'r Tîm Rheoli Canol Trefi.

choose-the-high-street-cy.JPG

Cysylltwch â ni