Chwaraeon Caerffili

Croeso

Mae chwaraeon ym mwrdeistref sirol Caerffili yn ffynnu ac ni fu erioed cymaint o gyfle i chi gymryd rhan, gwirfoddoli, hyfforddi neu wylio. Gallwn eich helpu i ddarganfod sut i gymryd rhan mewn chwaraeon, dod yn hyfforddwr, dod o hyd i ffynonellau cyllid chwaraeon a darganfod mwy am chwaraeon anabledd.

Gall Clybiau Chwaraeon sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili nawr wneud cais am y cyllid hwn unwaith eto ym 2024-25 (hyd at £2,500 y clwb) i wella eu cyfleuster a chynyddu cyfleoedd i gymryd rhan.

I gael ffurflen gais, nodiadau canllaw, adroddiad cwblhau prosiect neu i ddarganfod a ydych chi’n bodloni’r meini prawf ar gyfer y grant hwn, mae popeth mewn un lle i chi yma!

Mae enghraifft PDF o’r ffurflen gais ar gael er gwybodaeth – cliciwch yma

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, e-bostiwch chwaraeoncaerffili@caerffili.gov.uk

Hysbysiadau Preifatrwydd

Gwersylloedd Chwaraeon Caerffili (CWESTIYNAU CYFFREDIN)

Gyda gwyliau’r ysgol ar y gorwel, mae’r Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden wedi trefnu amserlen o weithgareddau sy’n llawn hwyl ac sy’n ceisio cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i blant ddatblygu eu sgiliau wrth gael hwyl.

Rydyn ni’n cynnig y cyfle i blant 7–12 oed ddatblygu eu sgiliau gyda hyfforddwyr proffesiynol, cwbl gymwys drwy sesiynau difyr a chyffrous mewn amgylchedd diogel a deniadol. Mae prisiau’n dechrau o £5.85 y dydd.

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth as Athletau Cymru i ddarparu’r gwasanaeth archebu hwn ar gyfer proses llyfnach ac eglur i chi.  ARCHEBWCH NAWR

  • Mae’n ofynnol i Rieni/Gwarcheidwaid ddarllen ein Telerau ac Amodau llawn cyn archebu lle ar un o’n Gwersylloedd Chwaraeon.
  • Rhaid i blant fod rhwng 7 a 12 oed
  • Dim cyfraddau consesiwn a rhaid i bawb dalu ar adeg archebu gan ddefnyddio’r system archebu ar-lein

DIM OND HYN A HYN O LEOEDD SYDD AR GAEL RHAID CADW LLE / TALU YMLAEN LLAW CYN MYND

Ebost: sportcaerphilly@caerphilly.gov.uk

Awn Amdani Ferched

Awn amdani, Ferched yw ymgyrch Chwaraeon Caerffili ar gyfer merched a menywod sydd â’r nod o gael mwy o fenywod i fod yn fwy egnïol, yn fwy aml drwy wahanol fathau o weithgareddau corfforol.

Mae’r gwersylloedd haf hyn yn targedu’r holl ferched 11-16 oed sy’n ceisio magu eu hyder a rhoi cynnig ar wahanol weithgareddau chwaraeon i ddod o hyd i rywbeth y byddan nhw’n ei fwynhau. Bydd trafodaethau hefyd am ddewisiadau bwyd iach, hyder y corff, effaith y cyfryngau cymdeithasol ac annog ein gilydd i fod y gorau y gallwn ni fod.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau hyn neu’r ymgyrch, Awn amdani, Ferched, Ebost: sportcaerphilly@caerphilly.gov.uk

 

Caerffili Elît

Mae Cynllun Caerffili Elitaidd wedi’i sefydlu i gynorthwyo datblygiad a llwyddiant posibl pobl chwaraeon. Nod y cynllun yw lleihau baich ariannol costau hyfforddi ar gyfer athletwyr dawnus, y mae llawer ohonynt yn dymuno cymryd rhan a chynrychioli Cymru a/neu Brydain Fawr yn eu campau priodol ar y llwyfan rhyngwladol.

Ebost: sportcaerphilly@caerphilly.gov.uk

Facebook Icon Twitter Icon