Polisi cadw lle mewn gweithgareddau - Chwaraeon Caerffili, CBSC

  • Rhaid i bob defnyddiwr gydymffurfio â'r rheolau a'r amodau cyffredinol sy'n berthnasol i holl ddefnyddwyr y cyfleusterau.
  • Mae angen i bob rhiant/gwarcheidwad lenwi ffurflen ganiatâd cyn i blant fynychu gwersylloedd chwaraeon/gwyliau. Cyfrifoldeb yr unigolyn sy'n cadw lle yw sicrhau bod y ffurflen ganiatâd wedi'i llenwi a bod yr holl fanylion sy'n cael eu darparu yn gywir, yn enwedig gwybodaeth lawn am bob plentyn gan gynnwys anghenion meddygol ac anghenion addysgol arbennig eraill, manylion cyswllt mewn argyfwng a chaniatâd ar gyfer lluniau/fideos.
  • Mae Chwaraeon Caerffili yn mynnu bod pob plentyn sy'n sâl neu'n heintus yn cael ei gadw gartref drwy gydol ei anhwylder, ac am 48 awr ar ôl i'r symptom olaf ddigwydd.
  • Os bydd damwain, bydd Cymorth Cyntaf yn cael ei roi i'r plant yn ein gofal ni, a bydd y gwasanaethau brys yn cael eu galw os bydd angen.
  • Mae angen cadw lle cyn mynychu gwersylloedd chwaraeon/gwyliau, oherwydd nifer y lleoedd sydd ar gael.
  • Bydd angen bod yn ddeiliad cerdyn Smart i gadw lle ar gyfer gwersylloedd chwaraeon/gwyliau.
  • Rhaid talu'n llawn wrth gadw lle.
  • Mae Chwaraeon Caerffili yn cadw'r hawl i ganslo'r sesiynau hyn ar fyr rybudd oherwydd tywydd garw a newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru.
  • O bryd i'w gilydd, mae'n bosibl y bydd angen i ni newid lleoliadau, dyddiadau, gweithgareddau a chyrsiau am resymau sydd o fewn ein rheolaeth ni, neu'r tu hwnt iddi.
  • Gall rhaglenni gweithgareddau newid os bydd tywydd anaddas neu amgylchiadau eraill y tu hwnt i'n rheolaeth ni.
  • Bydd canllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru yn cael eu dilyn wrth wneud y gweithgareddau. Gall gweithgareddau hefyd gael eu canslo ar fyr rybudd oherwydd cyfyngiadau a chanllawiau'r Llywodraeth.
  • Rhaid i rieni a/neu blant fynd i'r dderbynfa cyn i'w sesiwn ddechrau er mwyn sicrhau cofnodi eu presenoldeb.
  • Mae plant rhwng 7 a 12 oed yn cael manteisio ar wersylloedd chwaraeon sy'n cael eu cynnal gan Chwaraeon Caerffili. Nid yw neb sy'n iau neu'n hŷn na hyn yn cael manteisio ar y ddarpariaeth.
  • Rhaid i blant sy'n manteisio ar unrhyw un o'n gwersylloedd/gweithgareddau ni allu mynd i'r toiled a bwydo eu hunain. Os nad ydyn nhw'n gallu gwneud hynny, ni fyddan nhw'n gallu mynychu sesiynau oherwydd nad yw staff Chwaraeon Caerffili yn gallu darparu'r gofal hwn.
  • Mae angen i'r plant wisgo dillad priodol ar gyfer gweithgareddau chwaraeon ym mhob tywydd.
  • Rhaid gwisgo'r esgidiau cywir yn unol â pholisi'r Cyngor o ran esgidiau ar gaeau 3G.
  • Nid yw cinio yn cael ei ddarparu, ac nid oes modd ei brynu ar y safle. Mae angen i'r plant ddod â phecyn bwyd a digon o ddŵr gyda nhw.
  • Nid ydyn ni'n derbyn talebau gofal plant fel dull o dalu am y gwersylloedd/cynlluniau chwaraeon.
  • RHAID casglu pob plentyn erbyn diwedd yr oriau wedi'u hysbysebu ar gyfer pob dydd. Os na allwch chi gasglu eich plentyn am unrhyw reswm, ffoniwch y Ganolfan Hamdden yn uniongyrchol cyn gynted â phosibl.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw holl eiddo personol eich plentyn ac nid yw Chwaraeon Caerffili yn gyfrifol am unrhyw eiddo sy'n cael eu colli neu eu difrodi. Os ydych chi'n credu bod eich plentyn chi wedi gadael eitem yn un o'n sesiynau, cysylltwch â'r Ganolfan Hamdden yn uniongyrchol a bydd y staff yn gwneud eu gorau glas i'ch helpu chi.
  • Bydd cynnwys a gweithrediad y polisi hwn yn cael eu monitro, eu hadolygu a'u diweddaru yn rheolaidd. Bydd y staff a'r cwsmeriaid yn cael eu hysbysu'n ffurfiol am unrhyw ddiweddariadau.
  • Ni fydd staff Chwaraeon Caerffili yn goddef unrhyw fath o ymddygiad annerbyniol/aflonyddgar. Bydd unrhyw achosion yn arwain at ofyn i rieni/warcheidwaid dynnu eu plant allan o'r gwersyll.
  • Mae Chwaraeon Caerffili yn cydnabod y ddyletswydd gofal o ran diogelu, amddiffyn a hyrwyddo lles plant, ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod arferion diogelu yn adlewyrchu cyfrifoldebau statudol, canllawiau'r llywodraeth ac yn cydymffurfio ag arferion gorau a gofynion y Cyngor.
  • Ni fydd Chwaraeon Caerffili, fel sefydliad, yn goddef nac yn caniatáu unrhyw fath o fwlio, ac mae'n cydymffurfio â pholisi gwrth-fwlio y Cyngor.