Canolfannau hamdden yn paratoi i'ch croesawu chi yn ôl
Following the First Ministers announcement on Saturday 19 December, we can confirm that our leisure facilities are closed. Thank you for your patience and support through this difficult year and we apologise for any inconvenience this may cause. We look forward to welcoming you back when Welsh Government guidance permits.
Gall cwsmeriaid sy'n teimlo'n ansicr am fynd yn ôl ar hyn o bryd barhau i rewi eu haelodaeth drwy gysylltu â'r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 863072 neu e-bostio hamdden@caerffili.gov.uk.
Bydd y canolfannau canlynol yn ailagor ar ddydd Llun 9 Tachwedd:
- Canolfan Hamdden Caerffili
- Canolfan Hamdden Heolddu
- Canolfan Hamdden Cefn Fforest
- Canolfan Hamdden Trecelyn
- Canolfan Hamdden Rhisga
- Canolfan Hamdden Bedwas
Eich diogelwch chi
Eich diogelwch chi a diogelwch staff y canolfannau hamdden yw ein blaenoriaeth.
Peidiwch ag ymweld â chanolfan os ydych chi’n teimlo’n sâl neu’n dangos symptomau’r coronafeirws (COVID-19). Rhaid i chi gadw at ganllawiau’r Llywodraeth ynghylch cadw pellter cymdeithasol a hylendid ar bob adeg.
Os byddwch chi’n teimlo’n sâl neu’n datblygu symptomau COVID-19, ni waeth pa mor ysgafn yw’r symptomau, neu eich bod chi wedi cael canlyniad positif am brawf COVID-19, dylech chi hunanynysu yn syth yn eich cartref gan ddilyn canllawiau’r Llywodraeth.
Os ydych chi wedi bod mewn cyswllt â rhywun sydd â symptomau COVID-19 rhaid i chi gael prawf a hunanynysu yn eich cartref am 14 diwrnod.
Yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl wrth ymweld â chanolfan hamdden
Pan fyddwch chi’n ymweld â ni, byddwch chi’n sylwi ar newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud er mwyn sicrhau ein hymrwymiad i gadw pawb yn ddiogel.
Mae hyn yn cynnwys:
- Rhaid cadw lle ym mhob sesiwn ymlaen llaw
- Gostwng nifer y defnyddwyr yn yr adeilad
- Newidiadau i’n hamserlenni ac adleoli ein dosbarthiadau
- Trefn glanhau gwell yn ogystal â darparu nwyddau glanhau a glanweithdra
- Arwyddion cadw pellter cymdeithasol a chyfeiriadol i’w dilyn wrth i chi symud o amgylch ein hadeiladau
Y canolfannau hamdden a fydd yn ailagor
Bydd y canolfannau hamdden ganlynol yn ailagor o ddydd 9 Tachwedd:
|
Dydd Llun |
Dydd Mawrth |
Dydd Mercher |
Dydd Iau |
Dydd Gwener |
Dydd Sadwrn |
Dydd Sul |
Caerffili
|
7am - 9pm
|
7am - 9pm
|
7am - 9pm
|
7am - 9pm
|
7am - 9pm
|
9am - 4pm
|
9am - 4pm
|
Heolddu
|
9am - 9pm
|
8am - 9pm
|
8am - 9pm
|
8am - 9pm
|
9am - 8pm
|
9am - 4pm
|
9am - 4pm
|
Trecelyn
|
7am - 9pm
|
7am - 9pm
|
7am - 9pm
|
7am - 9pm
|
7am - 9pm
|
9am - 4pm
|
9am - 4pm
|
Rhisga
|
8am - 8pm
|
8am - 8pm
|
8am - 8pm
|
8am - 8pm
|
8am - 8pm
|
8am - 6pm
|
8am - 6pm
|
Cefn Fforest
|
8am - 9pm
|
8am - 8pm
|
8am - 8pm
|
8am- 8pm
|
8am - 9pm
|
9am - 3pm
|
9am - 3pm
|
Bedwas
|
1pm - 8pm
|
1pm - 8pm
|
1pm - 8pm
|
1pm - 8pm
|
1pm - 8pm
|
Closed
|
Closed
|
Gwasanaethau sydd ar gael
Bydd y gwasanaethau canlynol ar gael o 9 Tachwedd.
- Dosbarthiadau ymarfer mewn grŵp - Bydd dosbarthiadau ymarfer mewn grŵp ar gael yng Nghanolfannau Hamdden Caerffili, Heolddu, Rhisga a Threcelyn. Yn anffodus, o ganlyniad i gapasiti yn ein pyllau nofio, a’n hamserlenni, does dim modd i ni gynnig dosbarthiadau yn y dŵr ar hyn o bryd. Serch hynny, rydyn ni’n gobeithio y bydd modd eu hailgyflwyno yn fuan.
- Nofio - Bydd sesiynau nofio cyhoeddus ar gael yng Nghanolfannau Hamdden Caerffili, Heolddu, Rhisga a Threcelyn. Bydd angen i chi gadw lôn yn y pwll nofio. Bydd sesiynau’n para uchafswm o 45 munud yn y pwll er mwyn caniatáu i’n staff lanhau a pharatoi ar gyfer y sesiwn nesaf.
- Ystafelloedd ffitrwydd - Bydd ein hystafelloedd ffitrwydd yn ailagor yng Nghanolfannau Hamdden Caerffili, Heolddu, Rhisga a Threcelyn. Bydd sesiynau’n para uchafswm o 45 munud er mwyn caniatáu i’n staff lanhau a pharatoi ar gyfer y sesiwn nesaf.
Sut i gadw lle
Rhaid trefnu pob gweithgaredd ymlaen llaw, ar-lein, drwy’r ap neu drwy ffonio’ch canolfan hamdden ddewisol.
Rydyn ni’n gweithredu gwasanaeth heb arian parod, ac ni fydd taliadau ag arian parod yn cael eu derbyn. Lle bo modd, talwch gan ddefnyddio cerdyn debyd/credyd wrth gadw lle.
NEU ffonio’r ganolfan hamdden:
- Caerffili – Ffoniwch 029 2085 1845
- Heolddu – Ffoniwch 01443 828950
- Trecelyn – Ffoniwch 01495 248100
- Rhisga – Ffoniwch 01633 600940
- Cefn Fforest - Ffoniwch 01443 830567
- Bedwas - Ffoniwch 029 2085 2538
Atebion i’ch cwestiynau
Rydyn ni wedi paratoi rhestr gynhwysfawr o gwestiynau ac atebion er mwyn egluro’r newidiadau i’r gwasanaeth o 9 Tachwedd.
Os na fydd eich cwestiwn wedi’i ateb, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 863072 neu anfon e-bost i hamdden@caerffili.gov.uk
Cysylltu â ni
Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid - Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden Ffôn: 01443 863072 neu e-bost hamdden@caerffili.gov.uk