Next

Cerdded yw'r ffordd hawsaf a rhataf o fwynhau ein hardaloedd gwledig prydferth; does dim angen offer arbennig arnoch chi nac unrhyw hyfforddiant. Mae'n donig bod allan yn yr awyr agored ar eich pen eich hunan, gyda'ch ci, neu gyda'ch teulu a'ch ffrindiau. Does dim angen i chi gymryd ein gair ni - fe ddywedodd Hippocrates dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl: "cerdded yw'r moddion gorau i ddyn!"

Mae ein holl fannau gwyrdd yn ddelfrydol ar gyfer cerdded. Mae gan bob un rywbeth gwahanol i'w gynnig - llwybrau gwahanol, tirwedd gwahanol, cynefinoedd gwahanol. Ym mwrdeistref sirol Caerffili rydych chi bob amser yn agos at ardal dawel a llonyddwch, rhywle y gallwch chi fynd yno i anghofio am brysurdeb bywyd bob dydd - rhywle y gallwch chi fynd yno i ddadebru. Mae tudalennau ein parciau gwledig yn cynnwys adran am y gwahanol lwybrau a theithiau cerdded sydd ym mhob parc a fydd yn fan cychwyn da i chi.

Teithiau Cerdded

Rydyn ni wedi datblygu a chyhoeddi amrywiaeth o deithiau cerdded er mwyn eich helpu chi i ddarganfod y dreftadaeth naturiol eang sydd yn y fwrdeistref sirol. Fel arfer, mae'r teithiau cerdded hirach hyn, sy'n amrywio o dair milltir i 32 milltir, yn dechrau ac yn gorffen yn ein parciau a byddant yn eich arwain at yr ardaloedd gwledig y tu hwnt i'n mannau gwyrdd. Mae rhagor o wybodaeth am yr holl lwybrau ar gael ar y dudalen Teithiau Cerdded, yn ogystal â thaflenni i'w llwytho i lawr. 

Cerdded Iachus

Mae wedi'i brofi fod cerdded yn dda ar eich lles. Os ydych chi eisiau bod yn fwy iach a heini ac am ddefnyddio cerdded fel ffordd o wneud hynny, ewch draw i'r dudalen Cerdded Iachus. Mae'r dudalen yn cynnwys gwybodaeth am fuddion cerdded er eich lles a manylion am lwybrau sydd wedi'u datblygu'n benodol ar gyfer cerdded iachus.

Ydych chi'n chwilio am gymorth neu anogaeth er mwyn eich helpu i fod yn fwy iach a heini? Mae llawer o grwpiau cerdded lleol sy'n cwrdd yn rheolaidd i gerdded teithiau iachus byr o amgylch ein mannau gwyrdd. Maen nhw bob amser yn awyddus i groesawu aelodau newydd.

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Nid yw pob llwybr a thrac sy'n croesi drwy gefn gwlad yn lwybr neu'n daith sydd wedi'i ddynodi. Mae cannoedd o filltiroedd o lwybrau yn y fwrdeistref sirol y gallwch gerdded, ac weithiau beicio neu farchogaeth, arnyn nhw. Mae ein tudalen hawliau tramwy cyhoeddus yn cynnwys gwybodaeth i'ch helpu i gamu i'r cyfeiriad cywir wrth i chi gynllunio a threfnu eich teithiau cerdded eich hunan.

Tir Mynediad Agored

Mae bron i 6,000 hectar o fwrdeistref sirol Caerffili yn dir sydd wedi'i ddynodi fel "tir mynediad agored". Hynny yw, 6,000 hectar o dir agored, tiroedd comin a choetiroedd ble mae gennych chi hawl i grwydro arnynt. Hawl crwydro ar droed yn unig yw hynny, ond mae wedi golygu bod ardaloedd eang o gefn gwlad yn agored i chi fwynhau gweithgareddau hamdden anffurfiol. Mae rhagor o wybodaeth ar y dudalen Tir Mynediad Agored.

Cynnwys a Awgrymir