Gwirfoddoli

Mae ein Tîm Hawliau Tramwy yn cefnogi tîm o wirfoddolwyr rheolaidd a grwpiau gwirfoddol sy'n helpu i wella'r rhwydwaith hawliau tramwy yn eu hardal leol. 

Rydyn ni’n darparu offer, deunyddiau, hyfforddiant ac arweiniad i helpu gwirfoddolwyr i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae eu gwaith yn cael ei werthfawrogi'n fawr ac mae'n cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer datblygiad personol, cynnwys y gymuned a gweithio mewn tîm.

Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?

Gall gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o ffyrdd:

  • arolygu hawliau tramwy mewn plwyf neu ardal, gan nodi'r cyflwr ac unrhyw waith sydd ei angen
  • cynnal a chadw camfeydd a gatiau a thocio gwrychoedd 
  • gosod arwyddion gwybodaeth a gosod arwyddbyst
  • gosod pontydd a byrddau cerdded 
  • torri llystyfiant ar lwybr.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?

Byddwn yn darparu:

  • hyfforddiant cymorth cyntaf, offer a diogelwch safle
  • offer llaw ac offer amddiffynnol arall, fel menig, gogls a festiau gwelededd i'w defnyddio wrth wneud gwaith ar hawliau tramwy
  • cymorth gyda hyfforddiant, tasgau ymarferol a gwybodaeth am hawliau tramwy
  • cyfleoedd i gwrdd a chymdeithasu â grwpiau gwirfoddol eraill.

Sut mae cymryd rhan?

I gael rhagor o wybodaeth am ffurfio grŵp gwirfoddol, lawrlwythwch ffurflen wirfoddolwyr Hawliau Tramwy.

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Am wybodaeth am ymuno â grŵp sy'n bodoli eisoes yn eich ardal, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni