Parti Traeth Rhisga 2024

Dyddiad : 08 Mehefin 2024 10:00am

Lleoliad : Parc Tredegar, Rhisga, NP11 6BX

Parti Traeth Rhisga 2024
Parti Traeth Rhisga 2024

Dydd Sadwrn 8 & Dydd Sul 8 Mehefin 2024, 10am - 4pm

Mae Parti Traeth Rhisga yn ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal o 10am tan 4pm ar ddydd Sadwrn 8 a dydd Sul 9 Mehefin ym Mharc Tredegar, sydd wedi’i leoli oddi ar Tredegar Street yng nghanol tref Rhisga!

Bydd y digwyddiad deuddydd am ddim hwn yn gartref i draeth anferth yn llawn cadeiriau cynfas a theganau traeth i ddiddanu pawb! Bydd nifer fach o stondinau yn gwerthu lluniaeth poeth ac oer a’r fan hufen iâ holl bwysig! Beth am fentro i’r dref a #DewisLleol… dewch â sglodion neu ddanteithion picnic yn ôl i’w mwynhau ar y traeth a chefnogi'r manwerthwyr lleol… gwyliwch yr asynnod ond peidio â cheisio ymuno â’r amser bwydo!

Mae digon o fannau agored yn y parc ar gyfer picnic hefyd, felly, dewch â’ch blancedi a’ch danteithion gyda chi ac aros am y diwrnod! (Sylwer: ni chaniateir alcohol yn y digwyddiad.)

Edrychwch ar dudalen y digwyddiad ar Facebook, yma.

I gael rhagor o wybodaeth am y parti traeth, gan gynnwys y rhaglen adloniant, stondinau a fydd yn bresennol a gweithgareddau eraill ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/events.

Trefnir y digwyddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.  I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.

Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. #UKSPF