Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Pethau i'w gwneud    Digwyddiadau    Events listing    A Dog's Trail

A Dog's Trail

Date : 08 Ebrill 2022 9:00am

Venue : Caerffili

A Dog's Trail
A Dog's Trail

Dydd Gwener 8 Ebrill - Dydd Sul 5 Mehefin 2022

Dewch ar antur yng Nghaerffili gyda Dogs Trust a Snoopy.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn hynod gyffrous i groesawu ‘A Dogs Trail with Snoopy‘ i ganol tref Caerffili y gwanwyn hwn.  Mae’n ddigwyddiad arbennig a fydd yn hybu iechyd a lles, yn dod â busnesau a chymunedau ynghyd ac yn helpu hybu’r economi ranbarthol.

Rhwng 8 Ebrill a 5 Mehefin, bydd canol tref Caerffili yn fwrlwm o weithgarwch wrth i ddetholiad o gerfluniau Snoopy lliw llachar wedi’u dylunio’n goeth ddod i’r dref yn barod i gwrdd â chi i gyd! Ni fydd un, ond chwe cherflun Snoopy anferth 5 troedfedd o uchder, i gyd wedi’u dylunio’n gywrain gan artistiaid, cyn-lunwyr a darlunwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd gan bob Snoopy ei stori ei hun i’w hadrodd!

Mae ysgolion Bwrdeistref Sirol Caerffili hefyd wedi bod yn allweddol o ran y llwybr celf, gan ddylunio eu cymeriadau bach eu hunain a fydd yn cael eu lleoli mewn lleoliadau dan do o amgylch canol tref Caerffili. Mae tri deg pump o ysgolion lleol wedi bod yn brysur yn creu campweithiau eithriadol… maen nhw i gyd mor wahanol iawn ond yr un mor hynod wrth arddangos creadigrwydd a dychymyg y disgyblion. Mae Snoopy wedi dod yn fyw gan ysgolion Caerffili, ac ni allan nhw aros i’r llwybr gael ei gwblhau!

Mae disgyblion ac athrawon yn ysu i groesawu eu cerfluniau Snoopy 3 troedfedd o uchder nhw yn ôl drwy ddrysau’r ysgol unwaith y bydd y llwybr wedi’i gwblhau, yn barod iddyn nhw fyw yn eu cartref am byth. Ond yn gyntaf, mae pawb yn cael mwynhau’r cŵn bach hyfryd yn ystod y daith!

Mae’r llwybr cŵn yng Nghaerffili yn estyniad o A Dogs Trail with Snoopy yng Nghaerdydd, a fydd yn gartref i nifer fawr o gerfluniau Snoopy anferth. Bydd 6 cherflun arall hefyd wedi’u lleoli ym Mhorthcawl, gan wneud y llwybr celf hwn yn ne Cymru yn bleser pur i unrhyw un sy’n ystyried ymweld â’r ardal.

Beth am ystyried seibiant byr i’r ardal a gweld popeth sydd gan Fwrdeistref Sirol Caerffili i’w gynnig? Cymerwch olwg ar y tudalennau llety, digwyddiadau, gweithgareddau ac atyniadau ar www.visitcaerphilly.com/cy/ i wneud y mwyaf o’ch amser chi yn yr ardal.

Gallwch godi eich Mapiau Llwybr Caerffili yn COFFI VISTA – Caerphilly, The Edinburgh Woollen Mill, Bonmarché, Clarks Shoes & The Works yn fuan iawn!

  • Map Dogs Trail - https://www.visitcaerphilly.com/wp-content/uploads/2022/02/Dogs_Trail_Map_Welsh.pdf
  • A Dogs Trail Map - Dogs_Trail_Map_English.pdf (visitcaerphilly.com)
  • Lawrlwythwch Ap Llwybr Cŵn ar yr Apple Store
  • Lawrlwythwch Ap Llwybr Cŵn ar Google Play 

Siopa’n Lleol

Mae canol tref Caerffili yn cynnig profiad siopa hynod o wahanol gan ei fod wedi’i leoli’n ddramatig wrth ymyl ei gastell mawreddog ac wedi’i amgylchynu gan gefn gwlad hardd Cymru. Mae dwy ardal siopa yng nghanol tref Caerffili, ac mae’r ddwy yn darparu math arbennig o gynnig siopa.

Mae Canolfan Siopa Cwrt y Castell yn gartref i nifer o siopau’r stryd fawr ac mae Cardiff Road yn cynnwys llawer o fanwerthwyr annibynnol Caerffili yn ogystal â rhai siopau cadwyn allweddol. Yn y Ganolfan Ymwelwyr, sydd wedi’i lleoli yng nghanol tref Caerffili, gallwch chi ddod o hyd i fanylion yr atyniadau niferus sydd gan yr ardal i’w cynnig wrth ymlacio gyda diod boeth yn siop goffi’r ganolfan, Coffi Vista.

Archwiliwch yr hyn sydd gan weddill y Fwrdeistref Sirol i’w gynnig gyda siopa yng nghanol trefi Coed Duon, Rhisga, Trecelyn, Bargod ac Ystrad Mynach hefyd ar gael.

Gwobrau Snoopix - https://www.visitcaerphilly.com/wp-content/uploads/2022/04/Snoopix-Rewards-cy2-1.pdf

Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Chwiliwch Eto

Please let us know

Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl