Gŵyl Fwyd Caerffili

Date : 02 Mai 2020 9:00a.m.

Venue : Caerffili

Gŵyl Fwyd Caerffili
Gŵyl Fwyd Caerffili

Dydd Sadwrn 2 Mai, 9am - 5pm

Bydd Gŵyl Fwyd Caerffili yn wledd i drigolion ac ymwelwyr pan fydd yn dychwelyd i’r dref ar ddydd Sadwrn 2 Mai.

Disgwylir i filoedd ymweld â chanol tref Caerffili gan ei fod yn cynnal 100 o ddeiliaid stondin a fydd yn codi blas ar ymwelwyr gydag arogleuon bendigedig, seiniau sy’n hisian a chynnyrch a fydd yn tynnu dŵr i ddannedd.

Bydd y strydoedd yn cael eu trawsnewid i fod yn farchnad rhwng 9am a 5pm yn orlawn o wleddoedd gwych a ategir gan stondinau crefft a gweithgareddau a’r Farchnad Ffermwyr boblogaidd

Bydd y farchnad gaws ymroddedig hefyd yn dychwelyd i faes parcio’r Twyn i gynnig detholiad gwych o gawsiau i flasu a phrynu gan nifer o gynhyrchwyr.

Mae parcio ar gael ym Maes Parcio Heol y Cilgant ar Heol y Cilgant, CF83 1XY Bydd cau ffyrdd ar waith.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 029 2088 0011.

www.caerphillyfoodfestival.co.uk


Tell us about your event block