Llwybrau Seiclo

P’un a ydych yn chwilio am wyliau seiclo neu daith seiclo fer ar brynhawn Sul, mae rhywbeth ar eich cyfer ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae yma lwybrau prydferth oddi ar y ffordd fawr a llwybrau drwy’r trefi a phentrefi.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol neu’r Llwybr Celtaidd ewch i www.sustrans.co.uk lle cewch weld y llwybrau a phrynu pecynnau canllaw.

Y Llwybr Celtaidd

Mae’r Llwybr Celtaidd yn rhan o’r Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol, sef strategaeth i greu 6500 milltir o lwybrau seiclo diogel gydag arwyddion ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r Llwybr Celtaidd yn croesi 220 o filltiroedd o diroedd prydferthaf a mwyaf amrywiol de a gorllewin Cymru, o Gas-gwent i Barc Cenedlaethol Penfro. Does dim trafnidiaeth ar y rhan fwyaf o’r llwybr ac mae wedi ei gynllunio i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.

Llwybr y Twrch

Wedi ei enwi ar ôl twrch trwyth ffyrnig yn y Mabinogi, mae’r llwybr hwn yn un cyffrous iawn. Bydd rhaid i chi seiclo i fyny ac i lawr y mynydd, ac mae rhannau ohono'n dechnegol heriol iawn. Trac sengl yw’r rhan fwyaf o’r llwybr, ac mae’n para 15.5km. Mae’r Gymdeithas Beicio Modur Ryngwladol wedi rhoi gradd 'B’ iddo – yr un peth â Colorado a Chaliffornia, ac yn ail i Utah, Arfordir Gogleddol British Columbia a rhannau o’r Alpau!

Mae’r llwybr ar agor drwy gydol y flwyddyn ac nid oes angen talu i'w ddefnyddio. Mae teithiau beic ar gael gyda’r nos hefyd, a sesiynau ar gyfer gwirfoddolwyr. Mae lluniaeth ar gael yn siop goffi’r ganolfan ymwelwyr a gellir golchi beiciau yno hefyd. Mae safle gwersylla a charafanio 3 seren ar odre Dreif Coedwig Cwmcarn gyda chyfleusterau cyffyrddus o safon.

Llwybr Seiclo Cwm Aber

Mae’r llwybr amlddefnydd hwn yn para rhyw 4km rhwng 2 Station Terrace, y naill yng Nghaerffili a’r llall yn Senghennydd.  Mae nifer o safleoedd bywyd gwyllt difyr yn y caeau a choetiroedd ger y llwybr o Gaerffili ac mae’n mynd yn ei flaen wedyn i Barc Treftadaeth Abertridwr. Mae'r llwybr wedyn yn croesi safle hen Bwll Glo'r Windsor ac yna ymlaen i Senghenydd.

Ym Mhwll Glo'r Universal yn Senghenydd y digwyddodd trychineb lofaol fwyaf Prydain. Lladdwyd 439 o ddynion mewn ffrwydrad yno ym 1913.  Mae cofgolofn ac amgueddfa yn coffau’r digwyddiad a thrychinebau eraill yng Nghwm Aber yn Senghennydd.

Llwybr Seiclo Cwm Darran

Mae’r llwybr hwn yn mynd o Deras Bryste ym Margod tuag at Fochriw. Mae’r llwybr yn para dros 7km drwy Barc Cwm Darran, ac yn dod i ben ger canolfan ymwelwyr a chaffi'r Parc Gwledig. Mae nifer o lwybrau beic mynydd o fewn y Parc Gwledig. Mae’r llwybr seiclo yn mynd ar hyd hen reilffordd nad yw'n cael ei ddefnyddio mwyach ac o dan sawl pont.

Gellir gweld nifer o dirweddau a chynefinoedd o’r llwybr, gyda golwg glir iawn dros domenni glo’r Groes-faen. Y tu draw i bentref Deri, mae’r llwybr seiclo yn mynd drwy brif ardal y Parc Gwledig gyda'r llyn mawr yn ganolog iddo.

Llwybr Seiclo Aberbargod i Dredegar Newydd

Mae’r llwybr hwn yn para 2km tua’r gogledd o Aberbargod i Dredegar Newydd. Mae’n rhan o’r rhwydwaith sy’n cael ei ddatblygu ar hyd Cwm Rhymni. Yn syth i’r de o’r llwybr hwn mae Parc Coetir Bargod, sydd â nifer o lwybrau mynediad iddo. Mae’r llwybr yn mynd ar hyd hen reilffordd yn rhan fwyaf cul Cwm Rhymni ac mae’r rhan fwyaf ohono’n goediog. Pan nad oes coed ger y llwybr, ceir golygfeydd gwych o’r ardal sy’n ei amgylchynu gan gynnwys yr afon islaw.

Mae nifer o nodweddion hanesyddol i’w gweld ymhlith y coed ar y llwybr hwn, fydd yn y pen draw yn uno â’r llwybr presennol rhwng Powells Terrace, drwy safle Pwll Glo Mclaren ac i Abertyswg. Mae’r llwybr hefyd yn gyswllt i Amgueddfa’r Tŷ Weindio, sydd ag injan weindio weithiol ynddi.

Tudalennau Cysylltiedig

Beicio Mynydd