Gwersylla a charafanio

Coedwig Cwmcarn

Mae safle gwersylla 4 seren Croeso Cymru ger y nant yn Nantcarn. 

Mae llawer o gyfleusterau ar gael yno ac mae ar odre dreif y goedwig.

Mae lle ar gyfer hyd at 27 o garafanau neu bebyll, gyda chyswllt trydan, ystafell olchi a thai bach, a chyfleusterau gwaredu gwastraff cemegol.

Parc Cwm Darran

Mae safle gwersylla bychan ac ynysig ym Mharc Cwm Darran, gyda lle i 30 o bebyll o fewn Cwm hyfryd Darran.

Mae’r safle ger Canolfan Ymwelwyr Cwm Darran - gall 20 o bebyll gael cysylltiad trydan, ac mae lle i 10 arall heb drydan. Mae lle ar gyfer pebyll mawr iawn â 6 gwely neu fwy.

Mae’r safle ar agor rhwng 1 Ebrill a 30 Medi.