Taliad Cymorth Hunanynysu
Mae’r cynllun cymorth hunanynysu wedi’i greu ar gyfer pobl ar incwm isel, nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac sy’n gorfod hunanynysu. Mae hefyd ar gyfer rhieni a gofalwyr ar incwm isel sydd â phlant sy’n hunanynysu.
Bydd taliadau’n cael eu trethu, ond maent wedi’u heithrio o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Ni ddylent effeithio ar eich budd-daliadau.
Pwy sy’n gymwys
Er mwyn cael y taliad mae'n rhaid eich bod chi neu'ch plentyn wedi cael cais ffurfiol i hunanynysu. Ni fyddwch chi’n cael y taliad os dywedwyd wrth eich plentyn i hunanynysu drwy ap COVID-19 y GIG.
Rhaid i un o'r canlynol fod yn berthnasol hefyd:
- eich bod wedi profi'n bositif am COVID-19 neu bod gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru neu ap COVID-19 y GIG wedi cysylltu â chi oherwydd y cawsoch eich nodi fel person cyswllt a dywedwyd yn ffurfiol wrthych i hunanynysu
- bod eich plentyn yn mynychu'r ysgol, addysg bellach neu ofal plant (hyd at a gan gynnwys Blwyddyn 8, neu hyd at 25 oed os oes ganddo anghenion cymhleth) a’i fod wedi cael cais ffurfiol i hunanynysu gan naill ai:
- gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru
- ysgol eich plentyn
- lleoliad addysg bellach eich plentyn
- lleoliad gofal plant eich plentyn (crèche, meithrinfa)
Rhaid ichi hefyd fod:
- yn gweithio (yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig)
- yn methu gweithio gartref ac yn colli enillion oherwydd bod rhaid ichi hunanynysu (dim ond un rhiant neu ofalwr, os yw’ch plentyn wedi cael cyngor i hunanynysu)
- yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai
- Credyd Pensiwn
- yn derbyn Tâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd neu lai; a/neu
yn derbyn incwm personol NET o £500 neu lai
Taliad yn ôl Disgresiwn
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliad yn ôl Disgresiwn o £500 os ydych yn bodloni'r holl feini prawf cymhwystra eraill uchod, ond:
- Nad Ydych chi na'ch partner yn cael Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn.
- Y byddwch yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i fethu â gweithio tra byddwch yn hunanynysu.
Rhagor o wybodaeth am wneud cais
Mae'r cais hwn ar gyfer un person yn unig a rhaid i unrhyw geisiadau eraill o fewn yr un aelwyd gael eu gwneud gan bob unigolyn.
Ar ôl 1 Chwefror 2021, bydd gan unigolion hyd at 3 wythnos ar ôl diwrnod olaf ei gyfnod hunanynysu i wneud cais. Bydd unrhyw geisiadau a wnaed ar ôl 3 wythnos yn cael eu gwrthod.
Sicrhewch fod y wybodaeth isod wrth law cyn dechrau eich cais
- Rhif Yswiriant Gwladolide a statement to this effect.
- Cadarnhad o'r dyddiad a roddwyd gan Wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru
- Eich Cyfriflen Banc ddiweddaraf, slip cyflog neu brawf o hunangyflogaeth
Ap Covid-19 y GIG
Os oes gennych ap Covid-19 y GIG ar eich ffôn a'ch bod yn cael eich hysbysu bod angen ichi hunanynysu, oherwydd eich bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael canlyniad prawf positif ar gyfer Covid 19, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth.
Noder, os cewch eich hysbysu drwy ap, rhaid ichi ddarparu'r sgrinlun a ddangosir isod. Os na allwch ddarparu'r sgrinlun hwn neu os na fyddwch yn gwneud hynny, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried. Bydd angen ichi hefyd ddarparu cadarnhad ysgrifenedig gan eich cyflogwr na wnaethoch weithio yn ystod y cyfnod hwn a bod eich enillion wedi lleihau o ganlyniad. Os ydych yn hunangyflogedig, bydd yn rhaid ichi ddarparu datganiad i'r perwyl hwn.
Taliad Cymorth Hunanynysu >
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!