Mannau Croesawgar

I gydnabod yr anawsterau mae trigolion yn eu hwynebu o ganlyniad i’r argyfwng Costau Byw parhaus, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mewn partneriaeth â’r gymuned a’r sector gwirfoddol, yn datblygu rhwydwaith o Fannau Croesawgar (neu Ganolfannau Clyd) ledled y Fwrdeistref Sirol. 

Gall pob Man Croesawgar edrych yn wahanol, p’un a ydyn nhw'n dewis cynnig gweithgareddau, cymorth neu hyd yn oed fwyd poeth a diod – ond bydd pob un yn rhannu’r ethos o gynnig lle cynnes ac wyneb cyfeillgar y gaeaf hwn. 

Mae’r rhain yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, neuaddau eglwysi, clybiau chwaraeon a mannau eraill sy’n addo croeso cynnes i unrhyw un sy’n cael trafferth gwresogi eu cartrefi.

Mae Canolfannau Clyd ar gael i'w defnyddio am ddim a byddan nhw'n rhoi croeso cynnes i bawb.

Dod o hyd i Fan Croesawgar/Canolfan Glyd

Rydyn ni wedi creu cyfeiriadur o'r holl Ganolfannau Clyd ledled y Fwrdeistref Sirol. 

Cyllid grant i ddarparu Man Croesawgar

Er mwyn helpu i ddatblygu’r rhwydwaith hwn, mae’r Cyngor yn awyddus i weithio gyda grwpiau cymunedol sy’n dymuno datblygu eu Mannau Croesawgar eu hunain, gyda chyllid ar gael gan y Cyngor (gyda chymorth cronfa Canolfannau Clyd Llywodraeth Cymru) i gynorthwyo datblygiad Mannau Croesawgar newydd neu ehangu'r ddarpariaeth bresennol i gynnig croeso cynhesach fyth i drigolion lleol yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Os ydych chi'n cynrychioli grŵp cymunedol ac yn dymuno cael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn rhan o'n rhwydwaith Mannau Croesawgar, gan gynnwys pecyn cais am gyllid ychwanegol i gynorthwyo datblygiad eich Man Croesawgar, cysylltwch â thîm Gofal Caerffili ar GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu 01443 811490.

Cofrestru eich lleoliad fel Man Croesawgar

Os ydych chi'n sefydliad sy'n cynnig Canolfan Glyd yn barod, dywedwch wrthym ni am eich cyfleusterau a'ch gwasanaethau drwy gysylltu â GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu 01443 811490 er mwyn i ni ychwanegu eich lleoliad at y cyfeiriadur a rhoi gwybod i drigolion amdanoch chi.